Gwasanaethau yn ail ddechrau wedi tân ger gorsaf Paddington
Mae gwasanaethau trên wedi ail ddechrau rhwng gorsaf Paddington yn Llundain a Reading ar ôl i dân gwair gynnau yng nghanol y ddinas yn hwyr brynhawn Sadwrn.
Dyma'r llinell reilffordd sy'n arwain i dde Cymru.
Roedd y tân yn agos i'r cledrau ac achosodd drafferthion i deithwyr nos Sadwrn, gyda gwasanaethau cwmni trên Great Western Railway (GWR) i Reading yn cael eu canslo a'r gwasanaethau i faes awyr Heathrow.
Amharodd hefyd ar wasanaethau trenau tanddaearol Llundain.
Cafodd 380 o deithwyr eu cludo'n ddiogel oddi ar drenau tanddaearol ar linell Elizabeth, gyda chymorth criwiau tân a gweithwyr Transport for London.
Yn ôl Brigad Dân Llundain, cafodd chwe injan dân a thua 40 o griw eu hanfon i geisio diffodd y fflamau yn Scrubs Lane, gogledd Kensington, ar ôl iddyn nhw dderbyn galwad toc ar ôl 16:00.
Cafodd criwiau o Hammersmith, Paddington, Ealing a lleoliadau eraill eu hanfon yno.
Roedd mwg trwchus i'w weld yn codi o ardal Paddington ar un adeg ac fe amharodd y tân ar y cyflenwad trydan yn yr ardal.
Mae gwasanaethau Great Western, llinell Elizabeth a Heathrow Express yn ôl i'r arfer fore Sul, meddai'r awdurdodau.