Ben Cabango yn haeddu cerdyn coch medd rheolwr Wrecsam

Callum Doyle a Ben Cabango

Mae rheolwr Wrecsam yn dweud y dylai Ben Cabango fod wedi cael cerdyn coch am dacl "allai fod wedi torri coes" un o'i chwaraewyr yn y gêm yn erbyn Abertawe nos Sadwrn.

Dywedodd Phil Parkinson fod capten Abertawe yn haeddu cael ei anfon o'r cae am y dacl hwyr ar Callum O'Hare yn y gêm, a orffennodd yn 0-0 yn Stadiwm Swansea.com.

Fe ddaeth Ben Cabango ar y cae yn yr ail hanner, ac fe gafodd gerdyn melyn am y dacl.

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Phil Parkinson nad oedd y dyfarnwr wedi gwneud y penderfyniad cywir.

"Rwy'n gwybod ein bod ni eisiau amddiffyn ein chwaraewr, ond pan mae chwaraewr yn mynd i mewn i dacl ar y fath gyflymder ag y gwnaeth Cabango, fe allai'r dacl honno fod wedi torri coes rhywun.

"Dwi'n credu bod y dyfarnwr wedi ymateb yn dda i'r awyrgylch, ond fe gafodd y penderfyniad mawr hwn yn anghywir.

"Dwi ddim yn credu bod unrhyw un oedd yn gwylio yn y stadiwm neu ar y teledu yn gallu gwadu hynny."

Image
Phil Parkinson yn ymateb ar ochr y cae i dacl Cabango. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Phil Parkinson yn ymateb ar ochr y cae i dacl Cabango. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Penderfynodd rheolwr Abertawe, Vitor Matos, beidio â rhoi sylwadau ar y dacl.

"Dwi byth yn rhoi sylwadau ar benderfyniadau dyfarnwyr, dim o gwbl.

"Os yw Parkinson yn dweud hynny, da iawn iddo."

Fe gafodd Abertawe a Wrecsam gyfleoedd i ennill y gêm nos Sadwrn. Y tîm cartref oedd yn rheoli'r hanner cyntaf, ond heb greu unrhyw gyfleoedd clir o flaen gôl.

Daeth eu cyfle gorau yn yr ail hanner wrth i Zan Vipotnik ergydio o groesiad Moussa Yeo, ond roedd ei ergyd yn syth at gôl-geidwad Wrecsam, Anthony Patterson.

Dylai Callum O'Hare fod wedi sgorio i Wrecsam yn yr ail hanner, ond ergydiodd y chwaraewr canol cae heibio'r targed.

Mae Abertawe yn parhau ar frig y Bencampwriaeth, tra bod Wrecsam yn y 10fed safle.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.