Y Cymro Jak Jones i wynebu Mark Selby yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Prydain

jak jones.png

Bydd y Cymro Jak Jones yn wynebu Mark Selby yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Prydain ddydd Sul.

Enillodd y chwaraewr o Gwmbrân yn erbyn Judd Trump nos Wener i hawlio ei le yn y rownd derfynol.

Aeth Jones 3-0 ar y blaen cyn i Trump unioni'r sgôr, ond enillodd y Cymro y tair ffrâm nesaf i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Ar ôl sicrhau ei le yn y rownd derfynol, dywedodd Jones wrth Channel 5: "Dechreuais yn eithaf da cyn yr egwyl, a wedyn roeddwn i wedi dechrau methu ambell i beth.

"Allai ddim dweud fy mod i yn y sefyllfa yma yn aml, felly mae'n wahanol i mi o gymharu â Judd."

Yn 2024, cyrhaeddodd y Cymro rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd.

Jak Jones oedd y nawfed person yn unig mewn 47 mlynedd yn y Crucible i gyrraedd rownd derfynol y bencampwriaeth ar ôl dechrau'r gystadleuaeth yn y rowndiau cymhwyso.

 

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.