Gwasanaethau addysg ac iechyd Cymru'n ‘sylweddol waeth’ na chyn y pandemig
Mae adroddiad newydd sydd yn craffu ar wasanaethau iechyd ac addysg yng Nghymru wedi amlygu ‘perfformiad gwael’ o gymharu â Lloegr.
Yn ôl y Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol (Institue for Fiscal Studies), mae rhestrau aros am driniaethau wedi eu cynllunio o flaen llaw gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn parhau i fod yn llawer uwch na'r lefelau cyn y pandemig.
Mae’r rhestrau aros yn gostwng, ond yn arafach o gymharu gyda Lloegr, tra bod amseroedd aros mewn adrannau brys yn parhau i godi, yn ôl yr adroddiad 'Gwariant a pherfformiad gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.'
Mae’r adolygiad hefyd yn nodi fod absenoldebau disgyblion ysgol 50% yn uwch nag yn 2019, tra bod perfformiad disgyblion ar dablau perfformiad rhyngwladol wedi gostwng.
Mae’r gyfradd o bobl ifanc sydd yn aros mewn addysg ar ôl 16 oed hefyd yn llai nag yr oedd ddegawd yn ôl.
“Ar y cyfan, mae perfformiad yn systemau iechyd ac addysg yn sylweddol gwaeth na chyn y pandemig Covid-19 – ac yn waeth nag yn Lloegr,” meddai’r adroddiad briffio cyn yr etholiad, sydd wedi’i ariannu gan y Sefydliad Nuffield.
“Wrth edrych ymlaen, bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn ei chael hi'n anodd cynnal, heb sôn am wella, gwasanaethau oherwydd arafwch yn nhwf cyllid ac effaith penderfyniadau cyllidebu diweddar – gan gynnwys cynlluniau gwariant afrealistig ar iechyd ar gyfer 2026–27.”
'Tanberfformio'
Mae’r adroddiad yn dweud bod perfformiad wedi dirywio er gwaethaf cynnydd mewn gwariant, gyda lefel gwariant ar addysg ac iechyd fesul person yn uwch nag ym mhob rhanbarth yn Lloegr, oni bai am Lundain.
"Nid yw diffyg ariannu yn ymddangos fel prif reswm y tu ôl i'r tanberfformiad presennol, o gymharu â Lloegr," meddai'r adroddiad.
Mae hefyd yn awgrymu y byddai Llywodraeth nesaf Cymru wedi gorfod gwneud toriadau brys i wasanaethau a chynnal cyllideb frys ar ôl yr etholiad, oni bai fod Llywodraeth y DU wedi ychwanegu at ei chyllid yn Natganiad y Gwanwyn 2026.
Dywedodd Darcey Snape, economegydd ymchwil a chyd-awdur yr adroddiad: ‘Ar draws ystod o fetrigau – absenoldeb o’r ysgol, canlyniadau mewn profion PISA rhyngwladol a chyfraddau addysg ôl-16 – mae system addysg Cymru yn tanberfformio.
“Mae’r gostyngiad yng nghyfran y bobl ifanc o Gymru sy’n aros mewn addysg amser llawn ar ôl 16 yn amlwg. Ar yr olwg gyntaf mae’r duedd hon yn destun pryder ac mae angen ei deall yn well.”
Dywedodd David Phillips, pennaeth cyllid llywodraeth ddatganoledig gyda’r Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol, a chyd-awdur yr adroddiad nad oedd y rhesymau dros “berfformiad gwael gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwbl glir.”
“Mae angen mwy o waith i wneud diagnosis o'r gwahanol resymau dros berfformiad gwael gwasanaethau cyhoeddus Cymru a'r atebion posibl iddo. Gallai gwneud hyn fod yn un o lwyddiannau diffiniol - neu fethiannau - Llywodraeth nesaf Cymru.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wella gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen ar adeg pan fo costau'n codi.
"Mae rhestr aros y GIG wedi gostwng ac mae'r aros hiraf yn dod i lawr. Rydym wedi gosod disgwyliadau clir i bob bwrdd iechyd leihau arosiadau hir adrannau brys a chwblhau trosglwyddiadau ambiwlans o fewn 45 munud.
"Mae ein system addysg yn symud i'r cyfeiriad cywir diolch i'r gefnogaeth ychwanegol rydyn ni'n ei ddarparu i ysgolion a gwaith caled staff ysgolion. Mae ein canlyniadau TGAU a Safon Uwch diweddaraf yn dangos gwelliannau mewn cyrhaeddiad ers 2024. Ar gyfer dysgwyr iau rydym yn gweld cynnydd o ran darllen a rhifedd mewn asesiadau personol."
'Dirywiad'
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Mabon ap Gwynfor AS: "Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau'r hyn y mae pobl ledled Cymru eisoes yn ei wybod - dyw cyflwr ein gwasanaeth iechyd a'n hysgolion ddim yn ddigon da.
“Ar ôl 27 mlynedd mewn grym, mae'r dirywiad hwn yn ganlyniad uniongyrchol o gamreoli Llafur, ac mae gan bobl bob hawl i fod yn flin.
"Mae angen arweinyddiaeth newydd ar Gymru ar frys.”
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Ar ôl 27 mlynedd mewn grym, mae’n amlwg yn awr yn fwy nag erioed mai camreolaeth Llafur Cymru sy’n dal Cymru yn ôl. Er gwaethaf gwariant uwch, mae ein rhestrau aros GIG yn parhau’n hirach ac mae ein canlyniadau addysg yn cwympo y tu ôl i weddill y DU.
“Yn rhy aml, mae gan Gymru ddiwylliant gwleidyddol sy’n llawer rhy glyd, gyda phobl uwch yn symud rhwng pleidiau gwleidyddol, materion cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus heb ddigon o her nac atebolrwydd.”
Dywedodd James Evans AS o Blaid Reform UK: "Yn fwy na dim, mae rôl Plaid Cymru mewn llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi torri Cymru.
"Mae Plaid a Llafur wedi cael eu cyfle wedi 27 mlynedd o fethiant mewn iechyd ac addysg.
"Mae angen diwygio sylfaenol ar Gymru. Yr unig opsiwn crediniol am newid gwirioneddol yw Reform UK."
Mae Ceidwadwyr Cymru a'r Blaid Werdd wedi derbyn cais am ymateb.
