Gwaith celf newydd yn deyrnged i chwarelwyr bro Llanberis

Cerflun Llanberis

Mae gwaith celf newydd wedi ei osod ym mhentref Llanberis yng Ngwynedd.

Mae’r darn trawiadol gan yr artist Howard Bowcott yn "deyrnged i chwarelwyr yr ardal, eu teuluoedd a’r gymuned gyfan a fu’n rhan o’r diwydiant” meddai Cyngor Gwynedd.

Mae’r cerflun ‘Darllen y Graig’, yn dathlu sgil y chwarelwyr o ddeall a “darllen” y graig, gyda geiriau wedi’u naddu sy’n adrodd hanes eu gwaith a’u cymuned. 

Mae’r gwaith yn olrhain taith bachgen o blentyndod i waith yn y chwarel, gan "amlygu cyfeillgarwch, caledi a heriau bywyd y diwydiant llechi.”

'Cerflun arbennig'

Dywedodd Howard Bowcott: “Mae hwn wedi bod yn gerflun arbennig iawn i ymchwilio iddo a'i ddylunio dros sawl blwyddyn, a hefyd i'w wneud. 

"Mae dros 5000 o ddarnau o lechi to Dinorwig wedi'u pentyrru gyda'i gilydd i greu'r golofn sy'n troelli gan bwyll. 

"Mae wedi'i hysbrydoli gan gŷn holltwr llechi. Ond i mi mae cyfoeth y golofn ym manylder y testun, wedi'i ysgythru ar fandiau o lechi coeth.

“Bu'n bosib i mi dynnu sylw at rôl menywod yn y cymunedau llechi sy'n aml yn cael ei hesgeuluso, i'w dathlu ochr yn ochr â sgil y chwarelwyr. Mae'n ddathliad o gymuned, crefft a diwylliant sy'n nodi’r Safle Treftadaeth y Byd.⁠”

'Gwireddu gweledigaeth'

Dywedodd Bethan Holding Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanberis a Dyffryn Peris: “Daeth cyfle unigryw i’r gymuned allu gwireddu gweledigaeth o greu cofeb i’r chwarelwyr. 

"Roedd y prosiect yn gyfle nid yn unig i godi cerflun trawiadol sy’n cydnabod statws Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru, ond hefyd i gofio am y chwarelwyr a chydnabod cyfraniad pob gwraig a phob teulu a safai y tu ôl i bob chwarelwr.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’r prosiect hwn, a’r cynlluniau a gweithiau celf rydym wedi eu gweld mewn cymunedau chwarelyddol eraill, fel Porthmadog a Penygroes, drwy raglen Llewyrch o’r Llechi, yn helpu i adfywio ein cymunedau. 
 
"Mae’n ffordd i adrodd ein stori ac yn cynnig cyfle gwych i bobl ymfalchïo yn ein tirwedd llechi arbennig.
 
“Hoffwn ddiolch yn fawr am gefnogaeth Cyngor Cymuned Llanberis a Dyffryn Peris helpodd i ddatblygu’r cysyniadau, ac sydd wedi perchnogi’r cerflun.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.