Gwahardd teithio yn Efrog Newydd wrth i storm eira fawr agosáu

Siopwyr yn ciwio yn Efrog Newyd

Mae maer Efrog Newydd Zohran Mamdani wedi cyhoeddi y bydd gwaharddiad ar deithio yno o nos Sul wrth i'r ddinas baratoi ar gyfer storm eira fawr, gyda lluwchfeydd yn debygol.

Mewn cynhadledd newyddion, cyhoeddodd y maer stad o argyfwng, gan nodi y bydd y gwaharddiad ar deithio yn dod i rym am 21:00 yn Efrog Newydd, gan barhau tan hanner dydd - ddydd Llun. 

Ychwanegodd nad yw dinas Efrog Newydd wedi wynebu storm ar y raddfa hon yn y degawd diwethaf.  

“Rydym wedi cyflwyno gwaharddiad.... er mwyn sicrhau ein bod yn cadw bobl Efrog Newydd yn ddiogel, yn gynnes ac yn eu cartrefi," meddai Zohran Mamdani. 

Bwriad y mesurau yw cadw'r ffyrdd yn glir yno ar gyfer y gwasanaethau brys wrth i ragolygon y tywydd ddarogan eira mawr ar hyd a lled y ddinas, gyda hyd at ddwy droedfedd o eira yn bosibl mewn ambell ardal.

"Os gwelwch yn dda, er mwyn eich diogelwch, arhoswch adref, arhoswch i mewn, a chadwch oddi ar y ffyrdd." ychwanegodd.   

Mae gan y ddinas dri maes awyr, ac mae mwy na 1,600 o hediadau eisoes wedi eu canslo.  

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.