Gwahardd cyfryngau cymdeithasol yn rhoi ‘syniad ffug o ddiogelwch’, medd arbenigwr

Ffôn clyfar

Mae gosod gwaharddiad i blant ar gyfryngau cymdeithasol yn rhoi “syniad ffug o ddiogelwch” yn ôl arbenigwr.

Daw sylwadau Andy Burrows, prif weithredwr Sefydliad Molly Rose, ar drothwy dadl yn San Steffan am hawliau plant yn y maes digidol.

Mae Sefydliad Molly Rose yn gweithredu i geisio atal hunan-laddiad trwy ymgyrchu am fwy o ddiogelwch ar-lein.

Dywedodd Mr Burrows fod arolygon newydd wedi codi "cwestiynau mawr am effeithiolrwydd" y gwaharddiad yn Awstralia, lle nad yw plant o dan 16 oed yn cael cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl yr arolygon, mae tri ym mhob pump o blant Awstralia rhwng 12 a 15 oed yn dal i gael mynediad i un neu fwy o gyfrifon ar-lein, nad sy'n addas ar eu cyfer, er gwaetha'r gyfraith a ddaeth i rym y llynedd. 

Yn y DU, mae’r Ysgrifennydd Technoleg Liz Kendall wedi dweud y byddai ei hadran "yn edrych yn agos ar y profiad yn Awstralia" cyn penderfynu pa ddull i’w gyflwyno.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cynnig pŵer eang i gyfyngu ar fynediad plant i gyfryngau cymdeithasol fel rhan o’r Bil Lles Plant a’r Ysgolion, a allai gynnwys cyrffiw, terfynau amser neu waharddiadau wedi eu targedu.

Mae ymgynghoriad ar y gweill i helpu’r Adran dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT) i ddewis y cam nesaf.

Ond mae aelodau o Dŷ’r Arglwyddi yn mynnu bod angen gwahardd plant dan 16 oed rhag defnyddio llwyfannau sy’n cael eu hystyried y mwyaf niweidiol, gyda chyfnod gweithredu o 12 mis.

Mae angen i ASau ac Arglwyddi ddod i gytundeb ar y ffordd ymlaen, gyda’r ddadl nesaf i fod i ddigwydd ddydd Mercher.

Mae’r arolygon yn Awstralia yn awgrymu bod y gwaharddiad wedi gwneud i blant i “deimlo llai’n diogel”.

Dywedodd Mr Burrows:"Mae’r canlyniadau hyn yn codi cwestiynau mawr am effeithiolrwydd gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol Awstralia ac yn dangos y byddai’n risg i’r DU ddilyn yr un llwybr.

"Mae rhieni a phlant yn haeddu gwell na gwaharddiad gwag sy’n creu teimlad ffug o ddiogelwch allai ddiflannu'n gyflym.

Rheoleiddio cryfach

Collodd Ian Russell o Lundain ei ferch 14 oed, Molly yn 2017, ar ôl iddi hi brofi iselder. Roedd hi'n edrych ar gynnwys niweidiol ar-lein, yn ôl ei thad. 

Dywedodd Mr Russell: “Mae gan Keir Starmer y cyfle i wneud y DU yn arweinydd byd-eang mewn diogelwch ar-lein trwy ddilyn tystiolaeth gyda deddfau newydd cadarn sy’n rhoi i rieni yr hyn maen nhw’n ei fynnu’n deg.

“Mae’r gost yn rhy uchel i gael hyn yn anghywir drwy ddilyn arddull Awstralia sy’n cynnig ymdeimlad o ddiogelwch ond sy’n siomi plant mewn gwirionedd.”

Dywedodd llefarydd o Adran Wyddoniaeth San Steffan fod yr arolwg o Awstralia "yn tanlinellu pwysigrwydd cael y camau nesaf yn gywir".

Ychwanegodd: "Mae ein ymgynghoriad ar les plant ar-lein yn edrych ar amrywiaeth eang o opsiynau – o derfynau amser ar apiau, i waharddiad ar gyfryngau cymdeithasol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.