Guto Harri: 'Dwi byth wedi cael y cynnig i ymuno â’r Orsedd'

Guto Harri Stori'r Iaith

Mae cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson, Guto Harri, wedi cwestiynu pam nad yw'r Eisteddfod Genedlaethol erioed wedi rhoi cynnig iddo i ymuno â Gorsedd Cymru drwy anrhydedd.

Wrth gyflwyno'r ail raglen yng nghyfres Stori’r Iaith ar S4C, mae Mr Harri, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, yn rhannu ei brofiadau fel Cymro sy'n byw yn Llundain.

Er iddo dreulio'r rhan fwyaf o’i fywyd y tu allan i Gymru, mae'n dweud bod y pellter wedi atgyfnerthu ei hunaniaeth Gymreig.

"Dwi’n Gymro sy’n byw yn Llundain ac yn teimlo’n fwy o Gymro nag erioed," meddai, gan ychwanegu bod siaradwyr Cymraeg yn Llundain wedi chwarae rhan ganolog yn hanes yr iaith dros ganrifoedd. "Ry'n ni hefyd yn rhan o hanes yr iaith Gymraeg," ychwanegodd.

Mae’r rhaglen yn archwilio dylanwad cymunedau Cymraeg Llundain - o gymdeithasau radical y 18fed ganrif i’r diwydiant cyhoeddi cynnar a helpodd i safoni a lledaenu’r iaith - gyda chyfraniadau gan arbenigwyr sy'n cynnwys Dr Dylan Foster Evans, Dr Marion Löffler a Dr Llewelyn Hopwood.

Mae’r rhaglen yn sôn am y ffaith bod rhai o sefydliadau diwylliannol mwyaf eiconig Cymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Orsedd, yn ddyledus mewn rhan fawr i radicaliaeth wleidyddol yn Llundain.

Mae Mr Harri yn disgrifio sut roedd Iolo Morganwg a Chymdeithas y Cymmrodorion yn cael eu gyrru gan ddelfrydau Chwyldro Ffrainc, gan ddefnyddio iaith rhyddid a democratiaeth i ail-lunio bywyd diwylliannol Cymru. 

Ond mae'n mynd yn ei flaen i rannu ei siomedigaeth nad yw'r Eisteddfod Genedlaethol erioed wedi rhoi cynnig iddo i ymuno â'r Orsedd.

"Dwi byth wedi cael y cynnig i ymuno â’r Orsedd," meddai. "Dwi ddim yn siŵr pam, achos dwi wedi trio fy ngorau i fod yn rhyw fath o lysgennad i Gymru y tu fas i Gymru am ddegawdau nawr. 

"Falle bod ambell i bennod yn fy mywyd ddim cweit yn plesio’r sefydliad Cymraeg!"

Image
Guto Harri yn Downing Street
Yn ôl Guto Harri, a oedd yn aelod o dîm Boris Johnson pan oedd o'n Brif Weinidog ac yn Faer Llundain, mae’r iaith Gymraeg yn "gwbl sylfaenol i bwy ydw i"

Mae’r rhaglen hefyd yn gweld Mr Harri yn myfyrio am ei amser yng nghanol gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig. 

Mae’n cofio bod ymhlith yr ychydig o leisiau Cymraeg yng nghylchoedd dylanwadol Downing Street: "Sdim lot o Gymry Cymraeg… wedi bod rownd y bwrdd mawr," meddai, gan nodi pwysigrwydd cael safbwyntiau Cymreig yn bresennol pan mae penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud.

Mae Mr Harri hefyd yn disgrifio yr oriau hir a’r gwaith caled tra yn gweithio i Mr Johnson, rhywun yr oedd yn ei adnabod ers pedwar degawd. 

"Wy’n credu mod i erioed wedi gweithio oriau mor hir… nes i fwynhau bob eiliad," meddai.

Ond wrth wraidd y bennod mae ei falchder o drosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf.

Er ei fod yn magu ei deulu y tu allan i Gymru, mae'n pwysleisio ei benderfyniad i gadw’r iaith yn fyw yn ei deulu.

"Fi’n Gymro dim ots pa ochr i’r ffin ydw i," meddai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.