Grŵp ymgyrchu Covid yn anhapus gyda sylwadau 'torcalonnus' AS Plaid Cymru

Cyfyngiadau Covid-19

Mae ymgyrchydd ar ran grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn dweud bod sylwadau gan Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru yn “dorcalonnus”.

Wrth ymateb i neges ar y llwyfan cymdeithasol X am gynnal ymchwiliad llawn i’r ymateb i bandemig Covid-19 yng Nghymru, gofynnodd Elwyn Vaughan AS: “A oes gen ti hyd at £10m i’w wastraffu?”

Dywedodd Sam Smith-Higgins, sy’n ymgyrchu dros deuluoedd a gollodd eu hanwyliaid yn ystod pandemig Covid-19, wrth Newyddion S4C fod sylwadau Elwyn Vaughan AS yn “ffiaidd” ac yn deillio o “anwybodaeth”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu beirniadaeth am ddweud ei bod am gynnal adolygiad “cyflym gyda ffocws pendant” yn hytrach nag ymchwiliad llawn gyda phwerau cyfreithiol i alw tystion i roi tystiolaeth.

Mae ymgyrchwyr wedi dadlau bod hynny'n dro pedol o safbwynt Plaid Cymru cyn ffurfio llywodraeth wedi etholiadau mis Mai.

Image
X - Lloyd Warburton
Sylwadau'r tri ar gyfrwng cymdeithasol X

Dywedodd Sam Smith-Higgins wrth Newyddion S4C: “Mae ei alw’n ‘wastraff arian’ yn sarhau pob un o’r 13,000 o bobl a gollodd eu bywydau yng Nghymru yn ogystal â’u teuluoedd.

“Fe wnaeth Ymchwiliad Covid y DU gostio £200 miliwn. Costiodd Ymchwiliad Covid yr Alban £58 miliwn,” meddai.

“Byddai Ymchwiliad Covid statudol i Gymru ond yn costio £10 miliwn.”

Cafodd yr adolygiad ei chyhoeddi ddydd Mercher gan y llywodraeth, ac wrth siarad ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C mi gadarnhaodd y Prif Weinidog na fydd gan yr adolygiad “yr un pwerau ag ymchwiliad llawn".

Dywedodd Sam Smith-Higgins nad oedd y cais i gynnal ymchwiliad statudol am £10 miliwn “yn afresymol”:

“Rydyn ni’n teimlo’n bryderus iawn wrth weld sylwadau o’r fath gan Aelodau o Senedd Plaid Cymru, yn enwedig pan fo cost ariannol ymchwiliad Covid statudol i Gymru eisoes wedi’i chadw mor isel," meddai.

“Mae dadl Elwyn Vaughan yn deillio o anwybodaeth, tra bo Plaid Cymru yn brin o unrhyw beth arall i’w gynnig i amddiffyn eu tro pedol cywilyddus a’u brad yn erbyn teuluoedd mewn profedigaeth.

“Mae teuluoedd mewn profedigaeth yn haeddu atebion, atebolrwydd a pharch – nid esgusodion, troeon pedol na sylwadau sy’n bychanu eu colled.

“Mae Plaid Cymru yn amlwg allan o’u dyfnder yn y mater hwn."

Mae Elwyn Vaughan AS yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd yn y Senedd i Blaid Cymru ac yn cynrychioli etholaeth Gwynedd Maldwyn.

Cyn hynny bu’n gynghorydd sir dros ward Glantwymyn ar Gyngor Sir Powys.

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ei ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.