Adolygiad Covid Cymru ddim â phwerau statudol, meddai Rhun ap Iorwerth
Adolygiad Covid Cymru ddim â phwerau statudol, meddai Rhun ap Iorwerth
Mae’r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, wedi cadarnhau na fydd gan adolygiad annibynnol Llywodraeth Cymru o bandemig Covid-19 bwerau statudol i alw tystion a derbyn tystiolaeth.
Cyhoeddodd y llywodraeth yr adolygiad ddydd Mercher – er iddi alw ar lywodraeth Lafur flaenorol Cymru i gynnal adolygiad statudol llawn.
Wrth siarad â rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C cadarnhaodd y Prif Weinidog na fydd gan yr adolygiad “yr un pwerau ag ymchwiliad llawn".
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddewis adolygiad yn hytrach nag ymchwiliad wedi cael ei feirniadu gan ymgyrchwyr – Covid Bereaved Families for Justice Cymru – sy’n dweud ei fod “mewn perygl o droi’n adolygiad arall heb unrhyw ddannedd,” gan nad oes ganddo bwerau cyfreithiol statudol.
Pan ofynnwyd iddo a oedd pryderon Covid Bereaved Families for Justice yn gywir – sef na fyddai gan adolygiad Llywodraeth Cymru yr un pwerau ag ymchwiliad cyhoeddus – dywedodd Rhun ap Iorwerth:
“Rydan ni’n gweithredu yn union beth ddywedson ni y bydden ni yn ei wneud, sef rhoi cynllun mewn lle i gael yr atebion hynny, a tra bod hi’n gywir bod yna wahaniaeth rhwng adolygiad a be’ yn statudol mae ymchwilliad yn gallu cael ei wneud, da’ ni yn ei gwneud e’n clir y byddwn ni yn disgwyl i dystion gael eu galw ac yn y blaen.”
Mae’r ymgyrchwyr hefyd wedi dweud na fyddan nhw’n cymryd rhan mewn adolygiad, ac mewn neges ar-lein, dywedodd y grŵp fod “teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn haeddu dim llai” na defnyddio pwerau statudol i orfodi tystion “i roi tystiolaeth, datgelu dogfennau, a sicrhau atebolrwydd priodol.”
Pan ofynnwyd i Rhun ap Iorwerth a fyddai’r llywodraeth yn parhau gyda’r adolygiad hyd yn oed os nad yw’r Covid Bereaved Families yn rhan ohono, dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae’r adolygiad yma yn digwydd a dwi’n gobeithio wrth gwrs y bydd y teuluoedd yn cymryd rhan oherwydd ers y dechrau fel llefarydd iechyd dwi wedi gweithio yn agos iawn efo nhw a dwi’n siwr fy mod i yn chwilio am yr un peth ag y maen nhw’n chwilio amdano fo.”
Gwyliwch Y Byd yn ei Le ar S4C, S4C Clic, YouTube Newyddion S4C a BBC iPlayer
