Grŵp o ffrindiau o Sir Gâr yn ailgreu taith tractor elusennol 200 milltir

Bois y Ffergi yn Sioe Môn
Bois y Ffergi yn Sioe Mon

Bydd grŵp o hen ffrindiau o Sir Gâr yn ailgreu taith tractor elusennol 200 milltir a wnaethant bron i 40 mlynedd yn ôl, er mwyn codi arian ar gyfer elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Martin Beynon, syrfëwr o Lanedi, wedi dod â’i hen griw o Glwb Ffermwyr Ifanc Llandybie, neu Bois y Ffergi, yn ôl at ei gilydd ar gyfer y daith.

Ond dim ond pump o’r chwe ffrind a wnaeth y daith wreiddiol ar yr hen dractor Ferguson yn 1988 fydd yn cymryd rhan eleni.

"Fe wnaethon ni golli Alun, un o’r hen griw y llynedd," meddai Martin wrth Newyddion S4C.

"Felly fel grŵp roedden ni’n teimlo bod yr amser yn briodol i wneud rhywbeth arbennig."

Bydd y criw yn cychwyn ar faes Sioe Môn ddydd Mercher, gan deithio trwy Gymru ar gyflymder o tua 12 mya, cyn cyrraedd Sioe Llandeilo ddydd Sadwrn.

Yn 1988, roedd Martin a'i ffrindiau Arwel James, Brian Richards, Iwan Hall, Steve Roberts ac Alun Richards yn ddynion ifanc pan benderfynon nhw fynd ar daith tractor i ddigwyddiad Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc yn Bournemouth.

Roedd y daith honno tua 200 milltir hefyd, ac fe wnaethon nhw godi tua £2,000 ar gyfer elusen leol.

Daeth y syniad i gynnal taith arall ar ôl i Martin roi'r gorau i fagu gwartheg Simmental pedigri fel hobi.

"O’n i’n ffermwr rhan amser a penderfynes i orffen neud ‘ny ryw bedair mlynedd yn ôl ac oedd Ffergi fach 'da fi," meddai. 

"Oedd hi wedi gwneud lot o waith dros y blynydde, felly ro’n i’n meddwl bod e’n amser iddi gael bach o TLC dweud y gwir."

Image
Bois y Ffergi
Bois y Ffergi ar eu taith i Bournemouth yn 1988

Ar ôl adnewyddu'r tractor, penderfynodd Martin bod y Ffergi yn barod am her newydd.

"Gofynnes i i’r bois oedd ar y trip ‘na yr holl flynydde yn ôl, beth am neud wbath arall?," meddai.

Y tro hwn, fodd bynnag, mae’r criw wedi dewis llwybr sy’n aros yng Nghymru - gan deithio o’r gogledd i’r de.

Yn ystod y daith byddant yn galw yn y farchnad yn Rhuthun fore Iau ac ym marchnad Caerfyrddin fore Gwener.

"O’n i moyn e fod yn dipyn o challenge fel tro diwethaf - 200 milltir," meddai.

"Ac o’n i moyn e fod tu mewn Cymru ac oedd e’n gwneud synnwyr i fynd o’r gogledd nôl i’r de."

Bydd angen i’r criw gymryd eu tro wrth y llyw, gan nad yw’r tractor yn un cyfforddus i’w yrru am oriau maith.

Ychwanegodd: "Mae dros 200 milltir 'da ni i neud, felly 20 awr yn y sêt a dim ond 12 milltir yr awr mae’r tractor bach yn ei neud!"

'Lot o gofiade yn dod nôl'

Er mai dim ond pump ohonynt fydd yn cymryd rhan eleni, dywedodd Martin y bydd Alun yn rhan bwysig o'r daith.

"Fydde ni’n meddwl amdano fe ar y daith a’r sbri ni 'di gael i gyd dros y blynydde," meddai.

"Bydd 'na lot o gofiade yn dod nôl aton ni ar y taith hyn."

Mae’n credu y byddai Alun wedi bod yn "prowd iawn" o weld ei hen ffrindiau’n dod at ei gilydd unwaith eto.

"Bydde fe yn ei chanol hi, bydde fe moyn trefnu - dyna sut oedd Alun," meddai.

"Bydde fe wedi mwynhau hwn fel oedd e wedi tro diwethaf."

Bydd y criw yn codi arian ar gyfer elusen Ambiwlans Awyr Cymru, gwasanaeth sydd yn "safio bywydau pobl ar draws Cymru bob dydd".

Mae Bois y Ffergi eisoes wedi cyrraedd eu targed o £5,000, ac yn gobeithio codi mwy o arian dros y dyddiau nesaf.

Er hynny, mae Martin yn cyfaddef bod un peth yn ei boeni wrth i’r daith agosáu - y tywydd.

"Ma' rai fi gweud fi’n becso tamed bach am y tywydd mor dwym i’r tractor fach, achos doedd hi heb gael ei hadeiladu i ddreifio 200 milltir," meddai.

"Gweithio’n slo fach ar y cae mae hi fod, ond dyle fod yn iawn - allen ni ddim gwneud mwy i baratoi."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.