Gruff Rhys yn 'siomedig iawn' gyda 'ffiasgo' pleidleisio trwy'r post Caerdydd
Mae'r cerddor Gruff Rhys wedi dweud ei fod yn "siomedig iawn" bod yna bosibilrwydd na fydd yn gallu pleidleisio yn Etholiad y Senedd ddydd Iau.
Daw hyn yn sgil problemau gyda system bleidleisio trwy'r post yng Nghaerdydd.
Yn ei neges ar Facebook mae'r canwr yn disgrifio'r sefyllfa fel "ffiasgo" ac yn dweud ei fod yn nabod "llawer o rhai eraill yn yr un sefyllfa"
"Mewn etholiad mor agos, ar ei waethaf gallai hyd yn oed newid y cydbwysedd pŵer. Mae'n siomedig iawn gan fod hwn yn etholiad hollbwysig."
Fe fydd Gruff Rhys ar daith gyda'r Super Furry Animals ar draws Prydain sydd yn cychwyn yn Nulyn nos Fercher. Dyma daith gyntaf y band gyda'i gilydd ers bron i ddegawd.
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud wrth y cyfryngau eu bod yn "ymchwilio i'r mater ar frys".
Mewn datganiad i'r wasg maent wedi dweud bod y broblem yn effeithio etholaethau Caerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth.
Yn ôl yr awdurdod lleol maent wedi dosbarthu 47,000 o becynnau pleidleisio trwy'r post gyda 26,500 wedi eu dychwelyd.
Maen nhw yn dweud bod yr argraffwyr wedi cadarnhau bod nhw wedi cael y rhestr gywir gan y cyngor a bod y Post Brenhinol yn ymchwilio i'r mater.
Maent hefyd yn dweud eu bod wedi dosbarthu pecynnau o ddrws i ddrws ddydd Mawrth a bod nifer fach wedi cael eu hail bostio gyda blaenoriaeth.
"Rydyn ni yn difaru unrhyw anghyfleustra ac yn canolbwyntio ar sicrhau bod pawb sydd wedi eu heffeithio yn gallu pleidleisio," meddai'r cyngor.
