Graddau TGAU’n aros yn sefydlog wrth i filoedd dderbyn eu canlyniadau yng Nghymru

Canlyniadau TGAU

Fe wnaeth canlyniadau TGAU aros yn sefydlog ar y cyfan wrth i filoedd dderbyn eu canlyniadau yng Nghymru ddydd Iau.

Fe wnaeth canran y canlyniadau a gafodd y graddau uchaf, sef A* neu A, neu raddau 9, 8 neu 7, godi 0.1 pwynt canran ledled Cymru.

Roedd 19.6% o’r holl ganlyniadau TGAU a ddyfarnwyd yng Nghymru yn raddau A* neu A, neu’n raddau 9, 8 neu 7.

Roedd 62.3% o’r canlyniadau yn radd C neu uwch, neu’n radd 4 neu uwch, gostyngiad o 0.2 pwynt canran o gymharu â 2025.

Fe wnaeth nifer y cofrestriadau ar gyfer pynciau TGAU yng Nghymru ostwng 17,583, neu 5.7%, i 289,506.

Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod disgyblion Blwyddyn 10 wedi dechrau astudio’r cymwysterau TGAU newydd ym mis Medi 2025, ond ni fyddant yn cael y cymwysterau llawn tan 2027.

Roedd y cymwysterau newydd a gafodd eu cyflwyno ym mis Medi 2025 yn cynnwys Mathemateg a Rhifedd, Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth a Iaith a Llenyddiaeth Saesneg.

Fe wnaeth nifer y cofrestriadau ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg ostwng 30.5%, sef 8,981, ac fe wnaeth nifer y cofrestriadau ar gyfer Mathemateg-Rhifedd ostwng 22.5%, sef 5,355.

Roedd y gostyngiad hwn o ganlyniad i’r gwaith parhaus o ddiwygio TGAU yng Nghymru, meddai’r Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ).

Fe wnaeth disgyblion Blwyddyn 11 dderbyn eu canlyniadau TGAU terfynol, a nhw oedd y garfan olaf yng Nghymru i fod wedi astudio’n gyfan gwbl o dan y system TGAU flaenorol.

Wrth edrych ar ganlyniad gorau disgyblion 16 oed dros y flwyddyn academaidd gyfan, yn ôl ffigurau CBAC, fe wnaeth canlyniadau TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf wella.

Fe wnaeth y ganran o ddisgyblion a gafodd radd C neu uwch godi o 69.7% i 71.2%, ac fe wnaeth y ganran o ddisgyblion a gafodd y graddau uchaf, sef A* neu A, godi o 14.8% i 15.2%.

Fe wnaeth nifer y cofrestriadau gynyddu ychydig hefyd, o 6,126 i 6,226.

‘Ddim yn diffinio eich dyfodol’

Fe wnaeth y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan, longyfarch dysgwyr sy’n derbyn canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol.

Ymunodd y Gweinidog â dysgwyr yn Ysgol Uwchradd Llanisien, yng Nghaerdydd wrth iddynt gasglu eu canlyniadau.

“Dw i am longyfarch pawb sy’n cael eu canlyniadau heddiw,” meddai.

“Mae hwn yn bwynt pwysig ym mywyd person ifanc, ond ’dyw eich canlyniadau ddim yn diffinio eich dyfodol.

“Beth bynnag yw eich canlyniadau, mae digon o gyfleoedd ar gael ichi, p’un a ydych chi am fynd i addysg bellach, dilyn prentisiaeth, neu ddechrau mewn cyflogaeth.

“Mae hwn yn amser cyffrous i feddwl am eich camau nesaf, ac mae cefnogaeth ar gael drwy eich ysgol, Cymru’n Gweithio a Gyrfa Cymru.

“Mae hefyd yn ddiwrnod balch i athrawon a staff addysg ledled Cymru sydd wedi cefnogi dysgwyr drwy gydol eu hamser yn yr ysgol, a dw i am ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad a’u cefnogaeth.

“Ry’ch chi wedi gweithio’n galed i gael y canlyniadau hyn, a dw i’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau dathlu eich camp gyda theulu a ffrindiau.

“Dw i’n dymuno pob lwc ichi yn yr hyn y byddwch chi’n dewis ei wneud nesaf.”

‘Peidiwch â phoeni’

Wrth longyfarch dysgwyr, dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:

“Llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw, a da iawn am yr holl waith caled, ymrwymiad a gwytnwch rydych chi wedi’u dangos trwy gydol eich astudiaethau.

“Mae derbyn eich canlyniadau yn garreg filltir bwysig ac yn foment i fyfyrio ar bopeth rydych chi wedi’i gyflawni.

“Heddiw, bydd llawer o ddysgwyr hefyd yn dechrau cynllunio cam nesaf eu taith addysgol, eu hyfforddiant neu eu gyrfa.

“Beth bynnag yw eich canlyniadau, mae cyfleoedd ar gael i’ch helpu chi i symud ymlaen. Os nad ydych chi wedi derbyn y graddau roeddech chi wedi gobeithio amdanynt, peidiwch â phoeni.

“Gall eich ysgol neu goleg roi cyngor ac arweiniad ar yr opsiynau sydd ar gael i chi a’ch helpu chi i benderfynu ar eich camau nesaf.”

Gan ddiolch i’r rhai sydd wedi cefnogi dysgwyr trwy gydol y flwyddyn, ychwanegodd Philip Blaker:

“Hoffem ddiolch i bawb ym mhob rhan o’r system addysg a chymwysterau sydd wedi cefnogi dysgwyr drwy gydol eu hastudiaethau.

“Diolch i’r holl athrawon ymroddedig, darlithwyr, staff cymorth, arweinwyr ac arholwyr sydd wedi cefnogi dysgwyr i gwblhau eu cymwysterau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.