'Calon y teulu': Teyrnged i fenyw 45 oed o Gwm Dulais a fu farw wedi gwrthdrawiad
Mae teulu menyw 45 oed o Gwm Dulais a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ddydd Sul wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Lynne Marie Trump, oedd yn teithio ar feic modur, ar yr A4109 ger Glofa Cefn Coed.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu ei bod yn "wraig ymroddedig, mam gariadus a mam-gu annwyl".
"Roedd hi wir yn un o ddiemyntau prin bywyd - rhywun hynod arbennig, ac roedd ei phresenoldeb yn gwneud y byd yn lle mwy disglair a hapusach i bawb a gafodd y fraint o'i hadnabod," medden nhw.
"Roedd Lynne yn hwyliog, cariadus, gofalgal a hael, gyda phersonoliaeth hyfryd a oedd yn denu pobl ati.
"Hi oedd calon y teulu ac roedd bob amser yn rhoi eraill o flaen ei hun. Fel gwraig, mam a mam-gu, fe roddodd gymaint o gariad, cefnogaeth ac atgofion i'w theulu a fydd yn cael eu trysori am byth.
"Roedd ei theulu yn golygu popeth iddi, ac roedd yn dod â balchder mawr iddi wylio'r rhai yr oedd hi'n eu caru yn tyfu ac yn adeiladu eu bywydau eu hunain."
Ychwanegodd y deyrnged fod Lynne hefyd yn "trysori ei ffrindiau yn fawr".
"Roedd ei ffrindiau yn rhan bwysig iawn o'i bywyd, ac roedd y cysylltiadau a wnaeth â phobl yn rhai oedd yn para," meddai.
"Roeddem ni mor lwcus o fod wedi cael rhywun mor arbennig â Lynne yn ein bywydau. Fe wnaeth hi gyffwrdd â chalonnau cymaint o bobl, a gadael argraff barhaol ar bawb oedd yn ei hadnabod. Ni fydd ei charedigrwydd, ei chwerthin, ei chynhesrwydd a’i hysbryd hardd byth yn cael eu hanghofio.
"Er bod ein calonnau ni wedi eu torri nad yw hi gyda ni bellach, fe fyddwn yn cario Lynne yn ein calonnau am byth."
Mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600268317.
