Gostyngiad o 7% mewn biliau ynni ym mis Ebrill yn ôl Ofgem

Ffôn yn dangos biliau trydan cartref

Bydd biliau ynni yn gostwng ar gyfartaledd tua 7% y flwyddyn ym mis Ebrill medd y rheoleiddiwr Ofgem.

Daw hyn wedi newidiadau i gostau biliau a gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU.

Mae'r newid yn golygu y bydd rhan fwyaf o bobl sydd yn byw yng Nghymru yn elwa beth bynnag yw eu tariff. Er hynny fe fydd y swm yn amrywio rhwng bob cartref.

Ar gyfer pobl sydd ar dariffau amrywiol fe fydd yn golygu gostyngiad o tua £10 y mis ar gyfer nwy a thrydan nodweddiadol.

Ym mis Tachwedd fe ddywedodd y canghellor Rachel Reeves y byddai £150 yn cael ei dorri o filiau cartrefi pobl ar gyfartaledd o fis Ebrill. Roedd hyn yn bosib trwy gael gwared gyda chynllun oedd wedi ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr pan oedden nhw mewn grym. 

Llun: Jacob King/PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.