Aberystwyth: Dadorchuddio murlun arbennig i ddathlu pen-blwydd Mistar Urdd yn 50

Murlun Urdd

Mae murlun arbennig wedi cael ei ddadorchuddio yn Aberystwyth fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Mistar Urdd yn 50. 

Fe gafodd y murlun ei ddylunio gan Pete Fowler, sydd yn enwog am ei waith lliwgar ar gyfer albymau'r Super Furry Animals. 

Mae gan dref Aberystwyth le canolog yn hanes yr Urdd. Mae'n gartref i nifer o gerrig milltir y mudiad dros y degawdau, gan gynnwys pencadlys cyntaf y mudiad. 

Fel rhan o’r dathliadau, mae fersiwn newydd o’r gân eiconig, ‘Hei Mistar Urdd!’ gan Geraint Davies wedi cael ei rhyddhau ar Recordiau Sain. 

Mae’r trac, sydd wedi cael trefniant newydd gan Morgan Elwy, yn serennu’r gantores Aleighcia Scott, gyda’r artistiaid Dom James a Lloyd yn ychwanegu elfennau rap cyfoes, a Mared Williams yn cyfrannu lleisiau cefndirol. 

Fe gafodd y fersiwn wreiddiol ei recordio gan Geraint Davies gyda label Sain yn Llandwrog bron i 50 mlynedd yn ôl yn 1977.  

Fe gafodd cymeriad coch, gwyn a gwyrdd Mistar Urdd ei greu gan Wynne Melville Jones, neu Wyn Mel, yn 1976. 

Fel Swyddog Cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd, roedd yn ceisio apelio at bobl ifanc Cymru, a hynny drwy ychwanegu wyneb, breichiau a choesau at logo trionglog y mudiad. 

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi blwyddyn o ddathlu Mistar Urdd gydag amrywiaeth o weithgareddau gwahanol. 




 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.