Gorsafoedd pleidleisio yn agor ar gyfer etholiad cyffredinol cynnar Sbaen
Mae gorsafoedd pleidleisio wedi agor yn Sbaen wrth i bobl y wlad fwrw eu pleidleisiau mewn etholiad cyffredinol cynnar.
Cafodd y bleidlais ei galw wyth mis yn gynnar gan y Prif Weinidog Sosialaidd Pedro Sánchez ar ôl i aelodau seneddol wrthod newidiadau arfaethedig i gyfreithiau eiddo'r wlad.
Bydd Sánchez a'i blaid canol-chwith PSOE yn wynebu cystadleuaeth gref gan geidwadwyr Plaid y Bobl (PP), a allai fod angen cefnogaeth plaid asgell dde eithafol Vox i sicrhau mwyafrif.
Mae arolygon barn yn awgrymu bod y prif weinidog ychydig ar ei hôl hi o gymharu â PP a'u hymgeisydd i rôl y prif weinidog, Alberto Núñez Feijóo, ond ddydd Gwener dywedodd Sánchez wrth ei gefnogwyr ei fod yn hyderus bod buddugoliaeth yn bosibl.
Bydd miliynau o bobl yn Sbaen yn gallu bwrw eu pleidleisiau tan 20:00 (19:00 GMT) ddydd Sul.
Mae disgwyl i'r canlyniadau dros dro ddechrau dod i law tua awr ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau, cyn i'r canlyniadau swyddogol gael eu cyhoeddi dros nos hyd at fore Llun.
Un o’r themâu cyson sydd wedi bod ar hyd yr ymgyrch etholiadol yw diffyg tai fforddiadwy, yn ogystal â’r argyfwng costau byw a mewnfudo.
Mae Sánchez, sydd wedi bod mewn grym ers 2018, wedi profi ei allu i oroesi'n wleidyddol ac wedi dod yn adnabyddus ar y llwyfan rhyngwladol drwy ei wrthwynebiad i weithredoedd Israel yn Gaza a'i feirniadaeth o Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.
Ond yn ogystal â'r argyfwng tai, mae sgandalau llygredd a dwy ddamwain trên angheuol wedi niweidio ei safle gwleidyddol gartref.
Hyd yn oed os bydd plaid Sánchez yn ennill y nifer fwyaf o seddi yn y senedd, mae'n debygol y bydd yn ei chael hi'n anodd ffurfio clymblaid asgell chwith.
Clymblaid asgell dde?
Pe bai plaid Feijóo yn ffurfio llywodraeth, byddai hynny gyda chefnogaeth Vox, sy'n cael ei harwain gan Santiago Abascal.
Mae'r ddwy blaid eisoes wedi rhannu grym mewn pedwar rhanbarth yn Sbaen, ond gallai presenoldeb Vox mewn llywodraeth genedlaethol fod â goblygiadau sylweddol i Sbaen ac arwain at newid cydbwysedd grym yn Ewrop ymhellach.
Mae Vox yn cefnogi polisïau sy'n rhoi blaenoriaeth i ddinasyddion Sbaen o ran lles, yn ogystal â'r syniad dadleuol o "ailfudo," sy’n golygu dychwelyd tramorwyr sydd ddim yn cael eu hystyried fel eu bod yn cyfrannu at economi eu gwledydd gwreiddiol.
Mae beirniaid wedi awgrymu bod ideoleg y blaid yn dwyn i gof agweddau ar gyfnod yr unben Francisco Franco, cymhariaeth y mae Vox yn ei gwrthod.
Daeth yr ymgyrchu i ben yn Sbaen ddydd Gwener cyn y diwrnod traddodiadol o fyfyrio ddydd Sadwrn, sy’n gwahardd ymgyrchu am y diwrnod.