Gorfodi Dŵr Cymru i wario £44.7m am fethiannau 'difrifol' rhwydwaith dŵr
Mae Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr, wedi cyhoeddi pecyn gorfodi gwerth £44.7m ar Dŵr Cymru, ar ôl darganfod fod y cwmni wedi torri ei ddyletswyddau cyfreithiol wrth redeg ei waith a'i rwydwaith trin dŵr gwastraff.
Daeth ymchwiliad Ofwat i'r casgliad fod Dŵr Cymru wedi methu â "gweithredu, cynnal a chadw ac uwchraddio" ei asedau dŵr gwastraff yn ddigonol i sicrhau y gallent ymdopi â llif carthion a dŵr gwastraff.
Roedd y methiannau yn rhai "difrifol ac annerbyniol" meddai Ofwat.
Methodd y cwmni â chael prosesau digonol "a goruchwyliaeth gan ei uwch reolwyr a'i Fwrdd i sicrhau bod ei asedau'n perfformio'n ddigonol a'i fod yn bodloni'r gofynion cyfreithiol."
Mae Dŵr Cymru wedi cytuno i gymryd y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r problemau ac fe fydd yn gweithredu pecyn unioni o £44.7 miliwn y byddai angen ei gyflawni yn ystod 2025-30.
Byddai'r costau hyn yn cael eu derbyn gan y cwmni, ac nid trwy filiau uwch i gwsmeriaid meddai Ofwat.
Dywedodd Lynn Parker, uwch gyfarwyddwr gorfodi yn Ofwat: “Mae ein hymchwiliad wedi canfod toriadau difrifol ac annerbyniol yn y ffordd y mae Dŵr Cymru wedi gweithredu a chynnal ei weithfeydd a'i rwydweithiau carthffosiaeth, sydd wedi arwain at ollyngiadau gormodol o orlifiadau storm i'r amgylchedd.
“Rydym bellach yn disgwyl iddynt ganolbwyntio ar gywiro pethau fel y gall cwsmeriaid adennill ymddiriedaeth yn eu cwmni dŵr a'r gwasanaeth hanfodol y maent yn ei ddarparu.
“Rydym yn deall bod y cyhoedd eisiau gweld newid trawsnewidiol.
“Dyna pam rydym yn blaenoriaethu'r ymchwiliad sector-gyfan hwn, sy'n dwyn cwmnïau, fel Dŵr Cymru, i gyfrif.”
Gwelliannau
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: “Rydyn ni wedi cytuno ar becyn unioni £44.7 gydag Ofwat a fydd yn cyfeirio cyllid at welliannau amgylcheddol a chamau i leihau effaith gorlifoedd storm.
“Yn rhan o’r pecyn yma, bydd bron i £40.6 miliwn yn mynd i ariannu gwaith ychwanegol i leihau’r gollyngiadau o orlifoedd storm penodol, ac i daclo’r dŵr daear sy’n ffeindio’i ffordd i mewn i’r rhwydwaith garthffosiaeth - sef un o brif achosion eu gweithrediad cyson.
"Bydd hyn yn cynnwys targedu buddsoddiad ar safleoedd blaenoriaeth yn ogystal â chyflawni ymchwiliadau a gwaith gwella ar rannau o’r rhwydwaith garthffosiaeth er mwyn lleihau ymdreiddiad."
Ychwanegodd llefarydd: “Caiff £4.1 miliwn pellach eu buddsoddi er mwyn helpu i wella ansawdd dŵr afonol mewn dalgylchoedd hynod sensitif. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu Cronfa Cymuned Natur newydd £1 miliwn er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol ac elusennau sy’n gweithio i amddiffyn a gwella’r amgylchedd naturiol ar draws ein hardal weithredu.
“Mae’r gweithredoedd hyn yn ogystal â’r £4.2 biliwn rydyn ni’n eu buddsoddi rhwng 2025 a 2030, gan gynnwys £2.5 biliwn ar gyfer gwelliannau amgylcheddol - gyda £889 miliwn i dargedu gwella gorlifoedd storm yn benodol.”