Golders Green: Polanski yn ymddiheuro am neges ar ôl beirniadaeth arweinydd Y Gwyrddion yng Nghymru

Zack Polanski Anthony Slaughter

Mae arweinydd y Blaid Werdd wedi ymddiheuro am rannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn ymosodiad yn ardal Golders Green o Lundain, ar ôl beirniadaeth gan arweinydd y blaid yng Nghymru.

Roedd Zack Polanski wedi rhannu neges ar blatfform X oedd yn beirniadu gweithredoedd swyddogion heddlu a arestiodd y sawl sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Roedd y neges yn cyhuddo swyddogion o “gicio dyn â salwch meddwl dro ar ôl tro ac yn dreisgar yn ei ben pan oedd eisoes wedi’i analluogi gan Taser”.

Fe arweiniodd y penderfyniad i rannu’r neges, at feirniadaeth gan arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter.

“Rwy’n deall bod Zack wedi ail-drydar trydariad oedd, o’r hyn rwyf wedi’i ddarllen, yn ymddangos ei fod yn amhriodol i’w ail-drydar,” meddai wrth LBC nos Iau.

“Rwy’n gwybod bod Zack a’i gydweithwyr eraill yng Nghynulliad Llundain yn gweithio’n agos gydag Heddlu'r Met, felly bydd trafodaethau wedyn i weld beth aeth o’i le a sut y byddai wedi bod modd delio â hyn yn well yn y dyfodol.”

Brynhawn ddydd Gwener dywedodd Zack Polanski ei fod yn ddrwg ganddo am “rannu neges ar frys” ac nad y cyfryngau cymdeithasol oedd y llwyfan addas ar gyfer “sylwebu ar weithredoedd yr heddlu”.

Roedd aildrydariad Zack Polanski hefyd wedi ei feirniadu gan Gomisiynydd Heddlu'r Met, Syr Mark Rowley, a ddywedodd ei fod yn “siomedig”.

Wrth ymateb i'r ffrae, dywedodd arweinydd Reform UK yng Nghymru, Dan Thomas, ei fod yn arfer bod yn gynghorydd yn ardal Golders Green a bod y trigolion "yn byw mewn ofn ers degawdau".

Fe ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, bod angen edrych ar ôl cymunedau oedd yn teimlo dan fygythiad.

Dywedodd arweinydd y Llafur Cymru, Eluned Morgan, bod ei llywodraeth wedi bod "o ddifrif" am sicrhau bod cymunedau'n cyd-dynnu.

Fe ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, bod angen bod yn wyliadwrus am wrth-semitiaeth mewn sefydliadau addysg.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.