Gohirio penderfyniad i werthu rhes o dai mewn pentref yn Sir Ddinbych
Mae'r penderfyniad i werthu chwe eiddo ym mhentref Cyffylliog, ger Rhuthun, wedi'i ohirio y dilyn pryderon gafodd eu codi gan gynghorydd lleol.
Roedd y chwech o dai ym Mryn Awelon i fod i gael eu gwerthu drwy BTG Eddisons Property Auctions fel un lot mewn ocsiwn ar 30 Medi, gydag amcanbris o £300,000.
Daw'r penderfyniad i ohirio'r arwerthiant gan y Cyngor Cymuned er mwyn rhoi amser i ymweld â'r safle ac i gyfarfod â thrigolion lleol i drafod y sefyllfa'n well.
Mae hefyd er mwyn archwilio'r opsiynau posibl ar gyfer y cartrefi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.
Roedd Cyngor Cymuned Cyffylliog wedi galw ar Gyngor Sir Ddinbych i ystyried y canlynol:
- Cadw ac adnewyddu’r eiddo i’w defnyddio fel tai cymdeithasol neu fforddiadwy.
- Cynnig yr eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig neu gymdeithas dai.
- Gwerthu’r byngalos yn unigol, gan roi cyfle realistig i drigolion lleol a phrynwyr tro cyntaf eu prynu.
- A allai gwerthu’r eiddo yn unigol sicrhau pris uwch yn gyffredinol na’u gwerthu gyda’i gilydd fel un lot.
Oherwydd y pryderon, fe ddaeth Dirprwy Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn ogystal ag Aelod Arweiniol dros Dai a’r Cynllun Datblygu Lleol, y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams at ei gilydd i gwrdd ag aelod lleol y ward, y Cynghorydd Ian Evans i'w trafod:
“Cawsom gyfarfod adeiladol gyda’r Cynghorydd Evans yn dilyn ei gais i ni ystyried barn trigolion lleol, ac mae hyn wedi arwain at y gohiriad hwn", meddai Huw Hilditch-Roberts.
"Rydym yn teimlo ei bod hi’n bwysig gohirio’r broses arwerthu er mwyn caniatáu i drafodaethau pellach ddigwydd", meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams: “Mae tai lleol yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon ac mae’r eiddo hyn yn fater pwysig i’r gymuned leol.
Ychwanegodd y bydd gohirio yn rhoi'r cyfle i gael "sgyrsiau adeiladol am ddyfodol y cartrefi.”
Bydd cyfarfod cyhoeddus ar gyfer trigolion lleol yn cael ei drefnu gan y Cynghorydd Evans, a bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu'n fuan.