‘Gofal ar goridorau yn greisis' medd nyrs Ysbyty Gwynedd
‘Gofal ar goridorau yn greisis' medd nyrs Ysbyty Gwynedd
Mae nyrs sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi disgrifio’r gofal sy’n cael ei roi ar goridorau ysbytai fel “creisis”.
Mae Y Byd ar Bedwar wedi datgelu bod bron i 89,000 o gleifion wedi cael eu trin ar goridorau neu mewn amgylcheddau anghlinigol eraill yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o 2022 i ddiwedd Hydref 2025.
Ar gyfartaledd, roedd cleifion yn derbyn gofal mewn coridorau am bron i 10 awr yn Ysbyty Glan Clwyd y llynedd - yr amser cyfartalog hiraf o holl ysbytai’r gogledd.
Ond y cyfnod hiraf wnaeth un claf aros ar goridor oedd yn Ysbyty Gwynedd, yn 2024, a hynny am dros bum niwrnod.
Yn ôl un nyrs, sy’n gweithio yn Ysbyty Gwynedd, a siaradodd yn anhysbys gydag Y Byd ar Bedwar, mae gofal ar goridorau wedi dod yn arfer cyffredin.
“Mae o'n ddyddiol erbyn hyn. Ti’n mynd i dy waith yn ei ddisgwyl o,” meddai.
“Mae’n teimlo fel creisis ar hyn o bryd, yn enwedig y ddau fis diwetha’.”
‘Ddim yn ofal o safon’
Mae’r nyrs yn dweud ei bod hi’n teimlo’n euog nad yw’r cleifion yn derbyn gofal disgwyliedig.
“Dwi’n siŵr fod petha’n cael eu methu, achos does 'na’m posib bod chdi’n cael y gora’ wrth fod yn glaf ar goridor, so ma’ petha’n mynd i gael eu methu, dydy?" meddai.
“Ti’n rhoi’r gora’ fedri di, ond dydy cael dy nyrsio ar goridor ddim i safon i gychwyn, nadi?
“Fel nyrs efo dros 10 mlynedd o brofiad, ti yn teimlo’n euog bo’ chdi weithiau yn gorfod anwybyddu rhywun achos bod hi mor brysur ar y coridor.
"‘Oll fedra’i ddweud ydy mae’r staff wir yn gwneud eu gora’ - ma’ nhw wir yn trïo gwneud eu gora’ - ond dydy o ddim yn ddigon da jyst mynd ar hynny chwaith. Ma’ rhywbeth angen ei newid.”
‘Pryder’
Fis Chwefror eleni, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd wedi bod mewn mesurau arbennig ers 2023, gyhoeddi bod lleihau’r defnydd o ofal coridor yn flaenoriaeth iddyn nhw.
Ond drwy ffilmio’n gudd yn adrannau damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd, mae ymchwiliad Y Byd ar Bedwar yn dangos degau o gleifion yn derbyn gofal ar goridorau yn gyson.
Fe wnaeth newyddiadurwyr y rhaglen siarad gyda 40 o bobl sydd wedi profi gofal ar goridorau yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Wrth ymateb i’r lluniau o gleifion ar drolïau ac mewn cadeiriau olwyn a chadeiriau arferol ar goridorau, dywedodd Dr Phil White, Dirprwy Gadeirydd Cyngor Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain, fod y sefyllfa yn annerbyniol.
“‘Dan ni wedi bod yn d’eud hyn am dipyn fel cymdeithas feddygol bod o’n annerbyniol - mae’n beryg i’r cleifion," meddai.
"‘Sgynnoch chi ddim y nifer staff i ymdopi efo’r holl waith.”
Dywedodd Dr White fod y lluniau a gasglwyd yn codi sawl pryder.
“Preifatrwydd yn gynta’ - does dim preifatrwydd fan hyn. Hoffech chi oleiaf fod tu ôl i ryw lenni neu rywbeth, ond ma’ rhain jyst ar ddangos dros y coridor i gyd.
“Dio ddim yn deg, does dim urddas yno fo o gwbl. Mae’n amlwg bod rhai o rain ar ddrips, falle’u bod nhw ar antibiotics, ac mae angen cadw llygad ar bobl dan amgylchiadau fel hyn, sy’n anodd iawn i’r staff.”
‘Gwella profiad cleifion’
Mewn datganiad, dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ei bod hi’n cydnabod bod gormod o gleifion yn aros yn rhy hir yn adrannau achosion brys ysbytai’r bwrdd iechyd, a bod hyn yn peri gofid i gleifion, eu teuluoedd, ac i staff.
"Yn debyg i sefydliadau'r GIG ledled y Deyrnas Unedig, rydym yn profi galw sylweddol am ofal brys a gofal argyfwng a heriau o ran rhyddhau cleifion mewnol o'r ysbyty yn brydlon," meddai.
"Ar adegau, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i rai cleifion aros yn hirach i gael eu gweld, derbyn triniaeth, ac i gael eu derbyn i’r ysbyty. Yn anffodus, mae rhai cleifion yn derbyn gofal mewn mannau sydd heb eu dynodi at y pwrpas neu mewn coridorau.
"Rydym wedi rhoi goruchwyliaeth glinigol ychwanegol ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod cleifion yn ddiogel, ond rydym yn gwybod y gall hyn fod yn brofiad cynhyrfus i gleifion, eu teuluoedd a'n staff.
"Mae'n ddrwg iawn gennym ni am unrhyw un sydd wedi profi arosiadau hir neu sydd wedi derbyn gofal yn yr amgylchiadau hyn.
"Gwella profiad cleifion yn ein hadrannau achosion brys, a chynorthwyo ein staff i gynnig y gofal gorau posibl, yw blaenoriaeth bennaf y Bwrdd. Gan weithio'n agos gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, rydym yn rhoi rhaglen wella sylweddol ar waith ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwella llif cleifion trwy ein hysbytai, gan gynnwys rhyddhau'n ddiogel.
"Rydym hefyd yn dysgu o arfer gorau gyda thîm o arbenigwyr allanol sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd gan ddod â phrofiad o bob rhan o'r DU.
"Er gwaethaf amgylchiadau heriol, mae staff yn ein hadrannau achosion brys ac ar draws y Bwrdd Iechyd, yn cynnig gofal argyfwng arbenigol o fore gwyn tan nos, 24 awr y dydd. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn eu parchu ac yn eu cefnogi o ran gwneud y gwaith hynod bwysig hwn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "glir nad yw’n dderbyniol i ddarparu gofal mewn lleoliadau anghlinigol neu anaddas".
"Mae'n peryglu urddas cleifion, diogelwch a lles staff, ac rydym yn benderfynol o roi terfyn ar yr arfer hwn trwy ddiwygio ar draws y system," medden nhw.
"Rydym wedi gosod tîm ymyrraeth profiadol yng Ngogledd Cymru i gefnogi'r bwrdd iechyd i wella profiad a chanlyniadau cleifion, fel rhan o'r broses mesurau arbennig lefel 5.
"Rydym hefyd wedi ymrwymo £200 miliwn ychwanegol ledled Cymru i reoli staffio, gofal brys yr un diwrnod, a gwasanaethau cymunedol yn well, gyda £2.7 miliwn arall yn benodol ar gyfer Betsi Cadwaladr i leihau'r pwysau ar adrannau brys.
"Rydym yn parhau i drafod pryderon sy'n ymwneud â phrofiad cleifion a diogelwch cleifion a’r gweithlu yn uniongyrchol gydag uwch arweinwyr y bwrdd iechyd a byddwn yn parhau i ddal y bwrdd iechyd i gyfrif trwy drefniadau goruchwylio sefydledig."
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Gofal ar Goridorau - nos Lun, 20:00, ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.