Gobaith newydd yn Aberfan, 60 mlynedd ers y drychineb
Mae cyn-brifathro ysgol gynradd yn Aberfan yn dweud bod yna deimlad o obaith yn y pentref er gwaethaf y drychineb a ddigwyddodd 60 mlynedd yn ôl.
Fe aeth Alun Williams, cyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug, ati i ddysgu am effaith y drychineb ar y gymuned pan gafodd ei benodi i'r swydd.
Roedd o'n teimlo cyfrifoldeb i wneud hynny, meddai.
“Sicrhau fel cymuned ysgol ein bod ni’n cofio, ein bod ni’n cydnabod beth oedd wedi digwydd ac hefyd oedd 'na gyfrifoldeb enfawr arnom ni i fod yn cofleidio’r dyfodol. Oedd dyfodol Aberfan gyda ni.”
Roedd Mr Williams yn siarad mewn cyfweliad ar raglen Alex Jones: Un Diwrnod yn Aberfan.
Ar 21 Hydref 1966, cafodd 144 o bobl eu lladd pan lithrodd tomen lo i lawr y mynydd a chladdu Ysgol Gynradd Pantglas.
Roedd 116 o'r rhai a fu farw yn blant.
Cafodd Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug ei hadeiladu fel ysgol dros dro yn dilyn y drychineb, ond mae'n dal yno heddiw.
Mae Alun Williams a'i wraig Bethan yn dweud bod yna obaith yn yr ardal er gwaethaf y golled a'r galar.
Modryb Bethan, Margaret, oedd y nyrs gyntaf i gyrraedd y pentref ar ddiwrnod y drychineb.
Dywedodd Bethan Williams nad oedd ei modryb wedi siarad llawer am yr hyn a welodd.
“Ond wy’n cofio hi yn dweud nath hi gyrraedd y pentref, tynnu ei chlogyn a rhoi e ar railings odd ar bwys yr ysgol. Ag ath hi i helpu rhywun.
“Ag ar ôl helpu’r person yna troi rownd a gweld bod ei chlogyn hi ar y railings wedi diflannu achos bod tirlithriad arall wedi bod.”
Fe fuodd ei modryb yn helpu am wythnosau wedyn, a chafodd yr hyn a welodd “effaith fawr arni”.
Y genhedlaeth nesaf
Mae pwysigrwydd cofio'r drychineb hefyd yn cael ei deimlo gan genedlaethau iau Aberfan.
Cafodd brawd taid Evan Jones, Brian, ei ladd yn y drychineb pan oedd yn wyth oed a hanner.
Mae Evan yn dweud nad yw wedi gallu trafod y diwrnod hwnnw gyda'i daid, neu ei 'Pops' fel mae'n ei alw.
“Ni byth wedi trio codi fe lan oherwydd mae e wedi gwthio fe i ffwrdd dwi’n credu.
“Dwi’n credu dyna beth oedd llawer yn neud, trio cael ei hun mor bell â phosib i ffwrdd o’r teimladau mewn ffordd,” meddai.
‘Mae fy mhlentyndod i wedi gorffen hefyd’
Un arall sydd wedi cael ei effeithio'n ddwfn gan y drychineb yw Dewi Meirion Lewis, sydd heb siarad yn gyhoeddus am ei brofiad tan nawr.
Roedd Dewi yn fyfyriwr yn Abertawe ar y pryd ac fe aeth gyda chriw o fyfyrwyr eraill i Aberfan i helpu.
Mae'n cofio gweld glowyr yn cario cyrff ar stretsieri gyda blancedi drostyn nhw.
Dywedodd fod yr hyn a welodd wedi cael effaith ddofn arno.
“Cofio mynd yn ôl i’r Coleg ar ôl diwrnod a hanner o waith. A nes i fynd i’n stafell a dwi’n cofio yn glir nes i eistedd lawr ar fy ngwely yn fy ystafell yn Neuadd Lewis Jones a meddwl mae fy mhlentyndod i wedi gorffen hefyd.”
Roedd Jim Lloyd yn blismon ifanc oedd wedi bod yn gweithio shifft nos yn nociau Abertawe pan gafodd ei anfon i Aberfan.
Mae'n cofio bod yn rhaid dympio'r slyri ar gaeau agored a gweld faniau'n dosbarthu dillad sych i'r gweithwyr a phecynnau sigaréts.
Ond mae un olygfa wedi aros yn ei gof ers hynny.
“Y peth diwetha fi’n cofio sydd wedi sefyll gen i byth yw tua 5 o’r gloch, 6 o’r gloch, fel odd hi yn tywyllu y lori fach ma yn mynd lan, lori cefn agored yn llawn cyffyne (cyrff)plant.”
‘Lle mae dy Dduw di nawr?’
Roedd Sheila Davies ymhlith y rhai a aeth i Aberfan gyda Byddin yr Iachawdwriaeth i gefnogi'r teuluoedd oedd wedi colli eu hanwyliaid.
Mae'n cofio un dyn yn gofyn iddi: “Lle mae dy Dduw di nawr?”
Mae hefyd yn cofio cyfarfod â mam oedd wedi colli ei merch fach yn y drychineb.
“Y person arall, menyw ddaeth i’r drws a wna i byth anghofio ei gwyneb hi. Roedd ei thrwyn wedi chwyddo a’i llygaid wedi chwyddo.
“Merch fach oedd hi wedi colli. Fe ddywedodd hi, ‘Doedden ni ddim yn gwybod hapusrwydd pur tan iddi ddod i’r byd a nawr ma hi wedi mynd’.”
‘Mae’n deyrnged iddyn nhw’
Er gwaethaf y boen a'r golled, mae rhai o oroeswyr y drychineb wedi ymroi i sicrhau dyfodol gwell i genedlaethau newydd Aberfan.
Un ohonyn nhw yw Jeff Edwards, y plentyn olaf i gael ei achub o Ysgol Gynradd Pantglas ar ddiwrnod y drychineb.
Fe symudodd o'r ardal pan oedd yn oedolyn, ond ar ôl dychwelyd i'r pentref un penwythnos, fe sylwodd fod problemau ymhlith rhai o'r bobl ifanc.
Dywedodd fod ceir yn cael eu dwyn a'u darnau'n cael eu gwerthu er mwyn prynu cyffuriau ac alcohol.
“Roedd yna rhaniad mawr rhwng y bobl ifanc a phobl hŷn yn y gymuned.
“Es i lawr a gweld y plant yma oedd tu allan i Gapel Bethania a gofyn iddyn nhw beth yw’r broblem, a ddywedon nhw does gennym ni nunlle i fynd.”
Fe aeth Jeff ati i sefydlu prosiect cymunedol yn Aberfan er mwyn dysgu sgiliau i bobl ifanc.
Mae'n dweud bod rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned wedi bod yn bwysig iddo.
“Mae’n ymwneud gyda gwneud pethau na chafodd yr ieuenctid a fuodd farw yn y drychineb y cyfle i wneud. Mae’n deyrnged iddyn nhw.”
Prif lun: Y beddi yn Aberfan, Reuters
Bydd rhaglen Alex Jones: Un Diwrnod yn Aberfan yn cael ei darlledu ar S4C Hydref 18 am 20:00, ac ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer
