‘Fydden ni heb ddarganfod caer Rufeinig heb gymorth ariannol’
Mae darganfod caer Rufeinig ar Frenni Fawr, ym Mynyddoedd y Preseli, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyllid a chefnogaeth gymunedol i archaeoleg yng Nghymru.
Yr archeolaegydd Dr Mark Merrony, a gafodd ei fagu yn Ninbych-y-pysgod, oedd yn gyfrifol am y darganfyddiad sydd wedi taflu goleuni newydd ar orffennol Cymru, a chodi cwestiynau am y cysylltiad rhwng hanes Rhufeinig yr ardal a chwedlau’r Mabinogi.
Ond mae Mark yn dweud bod gwaith o’r fath yn ddrud, ac na fyddai modd ei wneud heb arian a chymorth pobl leol.
“Roedd rhaid i mi logi cloddwyr mecanyddol. Mae llawer o gostau,” meddai Mark.
“Dyna pam maen nhw’n dweud bod cloddio archaeolegol yn ddrud, achos mae o’n ddrud. Mae cost petrol, wedyn mae’n rhaid aros yn rhywle, ac yna mae’n rhaid gofyn i bobl leol am help.”
I ddechrau, roedd Mark yn dibynnu ar ariannu torfol i godi arian ar gyfer y prosiect. Llwyddodd hefyd i sicrhau cyllid gan Goleg Wolfson yn Rhydychen, lle mae’n gymrawd.
Ond nid yw pob prosiect archaeolegol yn gallu sicrhau’r un gefnogaeth ariannol, ac mae toriadau i gyllid yn codi cwestiynau am ddyfodol gwaith archaeolegol yng Nghymru.
Pryder am doriadau i gyllid
Yn ystod 2024–25, roedd archaeoleg yng Nghymru yn wynebu pwysau ariannol ar ôl toriadau i gyllid. Yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, cynigiwyd toriadau o 22.3% i Cadw a 22.1% i’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Yn y gyllideb derfynol, roedd gostyngiad o 10.5% yng nghyllid y ddau gorff o’i gymharu â chyllideb 2023–24.
Mewn llythyr i’r Senedd, rhybuddiodd Heneb, elusen genedlaethol dros archaeoleg Cymru, fod y toriadau i Cadw a’r sector treftadaeth yn anghymesur ac y byddent yn achosi niwed difrifol. Mae Cadw yn darparu tua hanner cyllideb Heneb.
Gall prosiectau archaeolegol wneud cais am grantiau gan sefydliadau fel Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn ogystal â cheisio cefnogaeth gan brifysgolion ac ymddiriedolaethau. Ond mae cystadleuaeth am y grantiau hyn yn aml, ac efallai na fyddant yn talu holl gostau’r prosiect.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, er enghraifft, gall myfyrwyr archaeoleg cymwys wneud cais i Gronfa Goffa Cyril Fox am grantiau tuag at gostau teithio, ymchwil a gwaith maes. Gwerth cyfartalog y grantiau yw rhwng £100 a £200.
Blynyddoedd o ymchwil yn arwain at y darganfyddiad
Mae’r gaer Rufeinig ar Frenni Fawr yn gysylltiedig â hanes milwrol Rhufeinig yr ardal, ac mae’r darganfyddiad yn codi cwestiynau newydd am y cysylltiad rhwng hanes y Rhufeiniaid a chwedlau’r Mabinogi.
Mae’r Mabinogi yn cysylltu’r ardal â Macsen Wledig, a elwir hefyd yn Magnus Maximus, ymerawdwr Rhufeinig o’r bedwaredd ganrif.
“Roeddwn i’n arfer beicio i lawr y ffordd honno, a byddwn i wedi beicio heibio’r gaer yna – Duw a ŵyr faint o weithiau,” meddai Mark.
Ar ddechrau’r 2000au, cloddiodd Mark a grŵp o wirfoddolwyr lleol fila Rufeinig ger Casblaidd. Ar ôl darganfod y safle, roedd gan y grŵp un cwestiwn: “Beth mae fila Rufeinig yn ei wneud yng nghanol nunlle?”
Treuliodd Mark flynyddoedd yn ymchwilio i rwydwaith ffyrdd y Rhufeiniaid yn Sir Benfro, gan gredu bod mwy i’w ddarganfod yn yr ardal.
Daeth y foment allweddol yn 2024, pan ddeffrodd yng nghanol y nos gyda syniad.
“Cefais foment ‘eureka!’ yn 2024, pan ddeffrais yng nghanol y nos a meddwl, ‘dwi wedi bod yn dwp’,” meddai.
“Es lawr y grisiau, troi’r cyfrifiadur ymlaen, mynd ar Google Earth, a dechrau edrych ar hyd yr A478, ac yna gwelais hi - y gaer.
“Dw i wedi treulio cannoedd ar gannoedd o oriau yn gwneud ymchwil i hyn, ac nid ydych bob tro’n dod o hyd i’r atebion. Ond yn raddol, rydych chi’n dysgu ychydig mwy, ac ychydig mwy eto; ond wrth gwrs, mae llawer o wrthwynebiad.”
Cymorth lleol yn hanfodol
Mae cefnogaeth y gymuned leol wedi bod yn allweddol i waith Mark. Ar ôl y darganfyddiad, cysylltodd cymaint o bobl ag ef i gynnig help gyda’i brosiect nesaf nes iddo orfod cadw cofnod o’r cynigion.
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n llawer gwell cael pobl o’r gymuned leol yn rhan o’r gwaith, oherwydd mae’n amlwg bod ganddyn nhw angerdd drosto. Mae’n rhan o’u hanes nhw, yn union fel y mae’n rhan o hanes unrhyw un arall.”
Mae’r darganfyddiad yn dangos sut y gall cyfuniad o ymchwil, cyllid a brwdfrydedd lleol ddatgelu rhannau newydd o orffennol Cymru. Ond, gyda phwysau ariannol ar y sector, mae cwestiynau’n parhau ynghylch sut y bydd gwaith o’r fath yn cael ei gefnogi yn y dyfodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae gan Gymru dreftadaeth archaeolegol eithriadol o gyfoethog ac mae Cadw yn parhau’n ymrwymedig i'w diogelu, ei deall a'i hyrwyddo er budd cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol.
“Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau archaeolegol, awdurdodau lleol, tirfeddianwyr a phartneriaid i sicrhau bod safleoedd a darganfyddiadau archaeolegol pwysig yn cael eu deall a'u diogelu'n briodol.
“Mae darganfyddiadau archaeolegol newydd yn rhan bwysig o ddatblygu ein dealltwriaeth o orffennol Cymru.
Pan ganfyddir olion a allai fod yn arwyddocaol, mae Cadw yn darparu cyngor arbenigol ar eu harwyddocâd a'r ffordd orau o’u diogelu.
"Caiff ymchwiliadau ac ymchwil archaeolegol hefyd eu cefnogi drwy rwydwaith ehangach o sefydliadau a phartneriaethau ledled Cymru.”