‘Glaw ar y ffordd’: Disgwyl i'r fyddin aros yn ne Cymru i ddiffodd tanau nes dydd Iau

Gwasanaeth tan a milwyr

Mae disgwyl “rhywfaint o law” a thywydd oerach yng Nghymru'r wythnos hon ar ôl penwythnos heriol i’r gwasanaethau brys sy’n brwydro sawl tân gwyllt.

Mae'r fyddin wedi cadarnhau eu bod nhw'n disgwyl aros yn ne Cymru i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddiffodd tanau gwyllt nes ddydd Iau pan fydd y "tywydd wedi gwella".

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod disgwyl i law ledu i ogledd Cymru ddydd Llun, a bod disgwyl glaw a hyd yn oed stormydd mellt a tharanau yn eang ar draws Cymru erbyn dydd Iau.

Daw wedi wythnosau o dywydd poeth a sych sydd wedi arwain at danau gwair gwyllt ar draws Cymru.

Ychydig cyn 7pm ddydd Sadwrn, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei fod yn wynebu “galw digynsail”, ar ôl cael 736 o alwadau o gymharu â chyfartaledd o tua 300.

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd ymateb i “weithgarwch sylweddol o ran tanau gwyllt” ddydd Sul, gyda chriwiau’n mynd i 14 o ddigwyddiadau.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod nhw’n canolbwyntio eu hymdrechion ar chwe ardal yn benodol sef Blaenafon, Dowlais, Glynrhedynog, Glyn Ebwy, Treherbert a Wattsville.

Ychwanegodd datganiad y gwasanaeth tân fod dros 110 aelod o'r lluoedd arfog yn helpu gyda'r gwaith o reoli'r fflamau, ynghyd â chriwiau o Lundain, Manceinion Fwyaf, Cumbria a Bedfordshire.

Dywedodd y Cyrnol Sion Walker, cyd-bennaeth milwrol Cymru, wrth Radio Cymru bod disgwyl iddyn nhw aros yn yr ardal nes dydd Iau.

"Rydyn ni newydd glywed yn hwyr neithiwr bod cytundeb wedi cael ei arwyddo i'n cadw ni yn fan hyn am ddau ddiwrnod ychwanegol," meddai.

"Gobeithio erbyn ddydd Iau bydd y tywydd wedi gwella."

Ddydd Gwener, dywedodd Heddlu De Cymru fod pedwar bachgen 14 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol ar ôl i dân gael ei gynnau ar y mynydd ym Mhorth.

Image
MOD3
Llun gan y Fyddin Brydeinig

‘Ansefydlog’

Ddydd Gwener, fe gafodd miliynau o bobl yng Nghymru a Lloegr rybudd ar eu ffonau symudol yn dweud bod “risg uchel iawn o danau gwyllt ledled y wlad”.

Mewn diweddariad ddydd Sul, dywedodd meteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Tom Morgan: “Alla i ddim addo y bydd pob un ohonom yn gweld glaw yn ystod yr wythnos i ddod, ond yn y de o leiaf, mae’n edrych yn debyg mai hon fydd yr wythnos fwyaf cyfnewidiol rydym wedi’i gweld o leiaf ers diwedd mis Mehefin.”

Dywedodd Mr Morgan y byddai’r llif jet yn symud tua’r de, gan olygu y byddai gwasgedd isel yn goruchafu. Ychwanegodd: “Felly, bydd y rhagolygon yn llawer mwy cyfnewidiol ac, ar adegau, yn ansefydlog drwy ganol yr wythnos. Bydd gwasgedd isel yn goruchafu ac yn symud yn araf tua’r de.”

Dywedodd y byddai’n dechrau troi’n “oerach” wrth i’r gwynt droi i chwythu o’r gogledd, gan ychwanegu: “Felly, yn ogystal â rhywfaint o law, cawodydd a hyd yn oed stormydd mellt a tharanau mewn mannau, bydd yn sicr yn teimlo’n llawer mwy ffres na’r wythnosau diwethaf yn y de.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.