Gemau ail-gyfle Cwpan y Byd: Cymru yn ennill yn erbyn Albania
Cymru sydd â'r fantais cyn ail gymal rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd yn erbyn Albania ar ôl ennill 1-0 oddi cartref nos Wener.
Gôl i'w rhwyd ei hun gan Ezmiralda Franja wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i dîm Rhian Wilkinson.
Fe ddaeth cyfle cyntaf Cymru ar ôl 14 munud wrth i gic rydd Lily Woodham ganfod pen Elise Hughes.
Ond roedd ei pheniad yn wan a doedd hi ddim yn trafferthu golwr Albania.
Dau funud yn ddiweddarach roedd yn rhaid i golwr Cymru, Safia Middleton-Patel, wneud arbediad gyda’i throed i atal ergyd Ezmiralda Franja.
Fe aeth Cymru ar y blaen ar ôl 21 munud wrth i gic rydd Woodham wyro oddi ar ysgwydd chwaraewraig canol cae Albania, Ezmiralda Franja, ac i gefn ei rhwyd ei hun.
Yr ail hanner
Fe gafodd Fortesa Berisha ddau gyfle gwych i Albania ar ddechrau’r ail hanner.
Cafodd ei hergyd gyntaf ei harbed gan Middleton-Patel cyn i’w hail ergyd daro’r postyn.
Roedd Albania yn credu eu bod nhw wedi sgorio ar ôl 66 munud wrth i Qendresa Krasniqi orfodi’r bêl i gefn y rhwyd, ond roedd Fortesa Berisha yn camsefyll.
Fe wnaeth Cymru ddianc eto yn hwyr yn y gêm wrth i bêl dros yr amddiffynfa ganfod traed Fortesa Berisha, ond fe aeth ei hergyd o agos dros y bar.
Er gwaethaf ymdrechion Albania yn hwyr yn yr ornest, doedden nhw ddim yn gallu sgorio.
Bydd Cymru yn wynebu Albania ym Mharc y Scarlets am 19:15 nos Wener, gyda'r enillwyr dros y ddau gymal yn chwarae naill ai Rwmania neu Norwy yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.