Arestio ail ddyn ar ôl dod o hyd i gorff dynes feichiog mewn fan oedd ar dân

Prestatyn / Sammi

Mae’r heddlu wedi arestio ail ddyn ar ôl dod o hyd i gorff dynes feichiog mewn fan oedd ar dân.

Yn gynharach ddydd Gwener fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi enw'r ddynes y cafwyd hyd i'w chorff ym Mhrestatyn nos Sul, 4 Hydref.

Roedd Samantha Natalie Phythian, oedd yn cael ei hadnabod fel Sammi gan ei theulu, yn 35 oed ac yn dod o'r Rhyl.

Roedd archwiliad post-mortem wedi datgelu ei bod yn feichiog ar adeg ei marwolaeth.

Nos Fercher cafodd Thomas Bell, 38 oed, o'r Rhyl, ei gyhuddo o'i llofruddio.

Fe wnaeth ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug fore dydd Gwener ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.

Brynhawn dydd Gwener, dywedodd y ditectifs sy’n ymchwilio eu bod nhw bellach hefyd wedi arestio dyn lleol 47 oed ar amheuaeth o gynllwynio i gyflawni llosgi bwriadol, ac o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi.

Mae teulu Sammi yn cael gwybod am y datblygiadau ac yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, meddai'r heddlu.

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Zoie Dunkerley: “Mae ein hymchwiliad i’r digwyddiad hwn yn symud yn gyflym, ac rydym ar hyn o bryd yn edrych ar bob trywydd posib sydd ar gael i ni.

“Hoffwn ddiolch i’r aelodau hynny o’r gymuned sydd eisoes wedi cysylltu â ni, a gofyn i unrhyw un arall sydd ag unrhyw wybodaeth, waeth pa mor fach, gysylltu â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio byw ar y we neu ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000816112.”

Teyrnged y teulu

Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Samantha Phythian: "Mae ei marwolaeth drasig a chynamserol wedi gadael ei theulu a'i ffrindiau wedi'u hysgwyd yn llwyr, ac yn ei chael hi'n anodd derbyn colli rhywun a oedd yn golygu cymaint i gynifer.

"Ni ddylai unrhyw deulu byth orfod dioddef y boen o golli aelod annwyl o dan y fath amgylchiadau.

"Er bod ei bywyd wedi dod i ben yn rhy fuan ac mewn ffordd greulon, ni fydd yr atgofion a greodd, y cariad a rannodd a'r bywydau y cyffyrddodd â nhw byth yn cael eu hanghofio.

"Bydd y rhai a'i carai yn ei chofio'n annwyl am byth, a bydd colled fawr ar ei hôl."

Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.