Gareth Evans-Jones yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod y Garreg Las

Gareth Evans-Jones yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod y Garreg Las

Gareth Evans-Jones ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod y Garreg Las ddydd Mercher.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Mur neu Furiau.

Angharad Price, Meleri Wyn James ac Iwan Rhys oedd y beirniaid ac roedd 28 wedi ymgeisio.

Un o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn yw Gareth Evans-Jones. 

Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgolion Llanbedrgoch a Goronwy Owen, Benllech, a’i addysg uwchradd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. 

Aeth wedyn i Brifysgol Bangor i astudio am raddau BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol, Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol, a doethuriaeth.

Bellach, mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru. 

'Nifer iach' o geisiadau

Wrth draddodi o’r llwyfan, dywedodd Meleri Wyn James am y gystadleuaeth: “Wrth i Angharad, Iwan a finnau dderbyn y gwahoddiad i feirniadu, dwi ddim yn meddwl bod yr un ohonon ni wedi rhagweld faint o gynigion fyddai ger ein bron. 

"Yn wir, eleni, fe ddaeth nifer iach iawn o geisiadau - 28 i gyd. Roedd y tri ohonon ni’n gofyn yr un cwestiwn. Sgwn i, ydy hwn yn record ar gyfer y gystadleuaeth hon?

“Yn sicr, ro’n ni fel beirniaid yn teimlo ei fod yn fater o falchder. 

"Ac ar ôl pori, darllen ac ystyried dros nifer o fisoedd, ro’n ni’n gytun - os yw cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith Eisteddfod y Garreg Las yn arwydd, yna mae dyfodol rhyddiaith Gymraeg, yn ddisglair iawn."

Image
MWJ
Meleri Wyn James yn traddodi o lwyfan y Pafiliwn

'Haeddu clod'

Ychwanegodd Meleri Wyn James: “Maen nhw i gyd yn haeddu clod ac mae nifer fawr yn haeddu cael eu cyhoeddi. Ymhlith y rheini mae gwaith Alba, Jo Bach, Morlo, Panad, Siriol ac Y Mynyddwr, ac mae potensial i gryn nifer o gyfrolau eraill weld golau dydd, o addasu a golygu rhywfaint arnyn nhw.

“Ar ôl cryn drafod, fe benderfynon ni bod pedwar yn haeddu cyrraedd y dosbarth cyntaf. 

"Y rheini, yn nhrefn yr wyddor, yw Cadno, Isha, O Bach a Pibydd. Roedd hi’n anrhydedd didoli gweithiau o safon mor uchel, roedd hefyd yn her. Ro’n ni’n tri yn gytûn y bydden ni wedi bod yn hapus iawn i wobrwyo pob un o’r awduron yn y dosbarth cyntaf, yn ogystal â sawl un arall, petai’n dod i hynny.

“Llongyfarchiadau twymgalon i’r pedwar awdur: mae’n gysur i ni fel beirniaid, y gallwn edrych ymlaen yn awchus at weld gwaith pob un yn cael ei gyhoeddi, i bawb allu rhyfeddu at eich dawn.

“Pedair cyfrol ddisglair a phob un mor wahanol...Ond un fedal sydd... beth i’w wneud felly? Do, fe fuon ni’n darllen ac yn ailddarllen, yn ystyried, yn trafod yn frwd, ac yn trafod eto wrth geisio dod i benderfyniad.

“Am ei chynfas eang, ei chwareustra, a’i dyfeisgarwch, mae Medal Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn mynd i Isha. Llongyfarchiadau gwresog iawn iddyn nhw.”

Llenor a dramodydd

Mae Gareth Evans-Jones yn parhau i lenydda, wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion, Eira Llwyd ac Y Cylch, cyfrol o lên micro a ffotograffau, Cylchu Cymru: Llun a Llên wrth Gerdded (a enillodd Wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023), a chyfrol o straeon byrion i blant, Llanddafad (a enillodd wobr Dewis y Darllenwyr yng Ngwobrau Tir na-nOg 2025). 

Mae hefyd wedi golygu a chyd-olygu cyfrolau academaidd a chreadigol, gan gynnwys Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+ ac Ar Amrantiad.

Enillodd Fedal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (2019 a 2021), gyda rhai o’r gweithiau iddo’u sgriptio gael eu cynhyrchu, gan gynnwys Adar Papur (cynhyrchiad digidol ar YouTube), Ynys Alys (Fran Wen), a Dilyn Sgwarnog (Sioe Gynradd Eisteddfod yr Urdd Ynys Mon eleni). 

Mae hefyd yn barddoni a chafodd y fraint o lunio cerdd groeso Eisteddfod yr Urdd 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.