O Gaernarfon i Guatemala: Anturiaethau’r cwpl sy’n casglu planhigion prin

Sue a Bleddyn Wynn Jones

Mae cwpl o Gaernarfon sydd yn teithio'r byd yn casglu planhigion egsotig yn dweud eu bod wedi cael eu bygwth gan ddynion â machetes yn Guatemala yn ystod eu hanturiaethau.

Ers degawdau mae Sue a Bleddyn Wynn Jones wedi teithio ledled y byd yn casglu a darganfod blodau newydd ac yn eu cludo yn ôl i'w Meithrinfa Blanhigion Crûg ger Caernarfon.

Dros y blynyddoedd maen nhw wedi teithio i Japan, Fietnam, De Corea, Guatemala a Mecsico i ddod o hyd i blanhigion prin.

Ac yn ystod eu cyfnodau tramor mae'r ddau wedi cael profiadau unigryw - rhai da a rhai drwg.

Yn 2001 roedd Bleddyn, sydd bellach yn 77 oed, yn teithio ar fynydd yn Guatemala pan gafodd ei fygwth gan grŵp o fechgyn gyda machetes.

“Es i fyny mynydd efo guide, jyst y ddau o ni. Nathon ni dreifio i waelod y mynydd a fyny’r llwybrau wedyn," meddai wrth Newyddion S4C.

“Wedyn o’dd y bechgyn ’ma’n dod allan o’r bushes gyda machetes a dweud bod nhw isho pres gynnon ni a hyn a’r llall.

“O’dd gynnon ni ddim pres efo ni, gynnon ni ddim byd. O’dd fy guide i yn dechre tynnu coes yr hogia ‘ma gan eu bod nhw mor ifanc, deud y dylia nhw fod yn yr ysgol a hyn a’r llall.

“O’n nhw’n dechra rhwbio ni gyda blade y machetes, rhwbio’n dillad a ballu.

Ychwanegodd Bleddyn: “Natha nhw ofyn am ein watshis ni wedyn a cymryd fy watsh i. Wedyn nathon nhw weld bod gan y guide Rolex, ond un fake o’dd o wedi ei brynu yn y farchnad.

“So natha nhw roi fy watsh i yn ôl i fi, yn meddwl bod nhw wedi hitio’r jackpot gyda’r Rolex ’ma.

“Pan aethon ni nôl i’r jeep hanner awr wedyn nathon nhw ddwyn petha' eraill, gan gynnwys ffôn y guide."

Image
Sue a Bleddyn ar un o'u anturiaethau. Llun: Sue Wynn Jones
Sue a Bleddyn ar un o'u hanturiaethau. (Llun: Sue Wynn Jones)

Mae Bleddyn yn cofio dau ddigwyddiad arall lle cawson nhw eu bygwth, un ym Mecsico a'r llall yn Nepal.

“Ym Mecsico nath yr heddlu bron â cloi ni fyny.

"Roedd milwyr ar ochr y ffordd wedi mynd â phopeth gwerthfawr o'dd efo ni, ond pan nathon ni ddeud wrth yr heddlu, ymateb y plismyn oedd bygwth ein harestio.

“O’dd o’n brofiad eitha’ dychrynllyd i gychwyn, ond ‘da chi’n dod i’r arfer wedyn.

“‘Dan ni ’di cael trafferth yn Nepal hefyd yn 2004. Ar ôl pres oedd pobl yn fan 'na hefyd, ond doeddan ni ddim yn cario lot o bres efo ni."

'Cyfoethog mewn ffyrdd eraill'

Dros y 35 mlynedd diwethaf mae Sue a Bleddyn wedi darganfod planhigion newydd ac wedi cyflwyno mwy na 4,000 o gyltifarau i'r Deyrnas Unedig.

Yn eu plith roedd rhywogaeth newydd o lili a math hollol newydd o blanhigyn o deulu'r gollen ystwyth, gan achosi tipyn o gyffro ymhlith botanegwyr ledled y byd.

Dywedodd Sue ei fod yn "fraint" cyflwyno planhigyn newydd i'r byd.

"Mae'n hynod gyffrous darganfod planhigyn neu flodyn nad oes neb wedi ei weld o'r blaen," meddai.

"Ond pan mae’n mynd i'r broses gynhyrchu a chi yw'r cyntaf i'w gyflwyno, mae hynny'n fraint enfawr.

"Un o fy hoff bethau am y swydd hefyd yw'r bobl rydym yn eu cyfarfod. Nid ydym yn ennill llawer o arian o hyn ond rydym yn gyfoethog mewn ffyrdd eraill oherwydd y bobl rydym wedi eu cyfarfod.

"Dwi wedi dweud erioed, os mai botanegwyr oedd yn rheoli'r byd, byddai'n lle llawer hapusach."

Image
Bleddyn a Sue gyda chyflwynydd Garddio a Mwy, Meinir Gwilym. Llun: Rick Matthews
Bleddyn a Sue gyda chyflwynydd Garddio a Mwy, Meinir Gwilym (Llun: Rick Matthews)

Mae diwrnod gwaith Sue a Bleddyn yn cychwyn am 06:00, gydag aelodau staff y fferm yn cyrraedd am 07:30.

O'r holl waith o blannu'r planhigion, cynnal a chadw a'r holl waith papur sydd ynghlwm â chynnal y fferm, mae oriau o waith yn cael eu gwneud i gadw'r safon.

Ac mae eu gwaith bellach wedi ennill Gwarant Frenhinol gan y Brenin Charles, gan gydnabod tri degawd o waith yn cyflenwi planhigion i Balas Buckingham ac ystadau brenhinol eraill gan gynnwys Balmoral a Sandringham.

“‘Dan ni wedi bod yn gwerthu iddyn nhw ers blynyddoedd, yn Sandringham," meddai Bleddyn.

“Wnaethon ni ymgeisio am y Warant Frenhinol wedyn a gathon ni fo.

“Tro cynta’ i ni werthu iddyn nhw oedd Palas Buckingham, nath rhywun o’r palas ein gweld ni’n gwerthu blodau mewn sioe yn Llundain yn 2008."

Ychwanegodd Sue: "Roeddem yn falch iawn o dderbyn y newyddion am y Warant Frenhinol. Ni yw'r unig feithrinfa blanhigion yng Nghymru i gael y fath anrhydedd ac ar hyn o bryd dim ond 14 o fusnesau eraill sydd wedi derbyn y warant yn y wlad.

"Rydym wedi gwneud llawer o waith yn cyflenwi i'r gerddi brenhinol.

"Byddai'r prif arddwr ym Mhalas Buckingham yn dod yma i gasglu planhigion a phan aethom i barti ar dir y palas roeddem yn gallu gweld ein planhigion yn tyfu yno. Roedd honno’n wefr arbennig."

Bydd Bleddyn a Sue yn trafod eu hanes lliwgar ar raglen Garddio a Mwy ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar 29 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.