Dros filiwn o bobl ifanc yn y DU ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant

Iechyd meddwl

Mae rhybuddion y gallai fod na “genhedlaeth goll” yn bodoli ar ôl i ffigyrau newydd ddangos bod dros filiwn o bobl ifanc yn y DU ddim yn gweithio na’n derbyn addysg ar hyn o bryd.

Mae ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod nifer y bobl sydd rhwng 16 a 24 oed, sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi codi i 1.01 miliwn yn y tri mis rhwng Ionawr a Mawrth.

Mae’n cynrychioli cynnydd o 55,000 ers y chwarter diwethaf.

Daw’r ffigyrau wrth i adroddiad gael ei gyhoeddi ddydd Iau, sydd yn rhagweld y gall y ffigwr godi i 1.25 miliwn erbyn 2031.

Byddai hynny'n cyhrychioli un ym mhob chwe pherson ifanc.

Mae awdur yr adroddiad sydd yn adolygu problemau pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (Neets), Alan Milburn, yn dweud mai “methiant system sydd heb symud ymlaen o’r gorffennol” sydd ar fai, yn hytrach na’r grŵp penodol yma o unigolion.

Mae’r cyn-weinidog cabinet Llafur wedi trafod rhai o ganfyddiadau’r adroddiad, gan gynnwys awgrym fod yna “genhedlaeth ystafell wely” yn bodoli, a bod pryder sydd yn gysylltiedig â chyfryngau cymdeithasol yn ffactor sydd yn cyfrannu at anweithgarwch economaidd.

Wrth gyhoeddi’r adroddiad cychwynnol ddydd Iau, mae disgwyl y bydd Mr Milburn yn dweud: “Nid yw chwech ym mhob 10 erioed wedi cael swydd. Ugain mlynedd yn ôl, roedd y ffigwr yna’n agosach i bedwar ym mhob 10.

“Nid yw datgysylltiad yn rhywbeth dros dro bellach. I ormod o bobl ifanc, mae’n rhywbeth sydd yn troi’n barhaol. Rydym yn wynebu risg y gallai fod cenhedlaeth goll.”

Wrth gyhoeddi ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddydd Iau, dywedodd un o benaethiaid y sefydliad, Elise Rohan: “Mae nifer y bobl ifanc sydd heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi codi i filiwn yn ystod chwarter cyntaf 2026, y lefel uchaf ers dros 12 mlynedd.

“Cafodd hyn ei yrru gan niferoedd uwch o bobl ifanc doedd ddim bellach yn chwilio am waith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.