Ffrwydrad mewn ffatri tân gwyllt yn Tsieina yn lladd 26
Mae ffrwydrad mewn ffatri tân gwyllt yn nhalaith Hunan yn Tsieina wedi lladd 26 o bobl.
Mae o leiaf 61 arall wedi’u hanafu, yn ôl cyfryngau'r wlad.
Roedd yn rhaid i bawb o fewn 1.9 milltir i’r ffatri yn Huasheng yn ninas Liuyang adael eu tai brynhawn Llun.
Fe gafodd mwy na 1,500 o weithwyr o’r gwasanaethau brys eu hanfon i’r safle, gan achub saith o bobl oedd wedi’u dal o dan y malurion.
Mae’r heddlu yn ymchwilio i achos y ffrwydrad. Yn ôl cyfryngau gwladol Tsieina, maen nhw wedi cymryd “camau” yn erbyn y staff oedd yn gyfrifol am y cwmni tân gwyllt.
Roedd effaith y ffrwydrad mor ddinistriol nes bod ffenestri mewn tai gerllaw wedi chwalu, meddai gohebydd o wasanaeth newyddion gwladol CCTV.
Mae’r Arlywydd Xi Jinping wedi galw am bob ymdrech bosib i chwilio am y rhai sydd ar goll ac i achub y rhai sydd wedi’u hanafu.
Mae hefyd wedi galw am ymchwiliad i’r ddamwain er mwyn dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif, yn ôl cyfryngau gwladol.
Wrth siarad â Beijing News, dywedodd un person sy'n byw tua hanner milltir o'r ffatri bod cerrig ar y ffyrdd gerllaw.
"Cafodd ffenestri gwydr ein cartrefi eu chwalu, cafodd fframiau ffenestri alwminiwm eu hanffurfio, ac roedd drysau dur wedi’u troelli allan o siâp," meddai.
Llun gan Reuters.