Ffrindiau Josh Roberts yn cychwyn her 100 milltir o Lerpwl i Gaernarfon

Her Josh

Bydd criw o ffrindiau Josh Lloyd Roberts yn cychwyn taith gerdded dros 100 milltir o Lerpwl i Gaernarfon fore dydd Iau er cof amdano.

Bydd yr her bedwar diwrnod yn dechrau yn Stadiwm Hill Dickinson, cartref newydd Everton, ac yn gorffen yn Stadiwm yr Oval, cartref Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, ddydd Sul.

Roedd Josh, oedd yn cael ei adnabod gan lawer fel “Pickle”, yn gefnogwr brwd o’r ddau glwb, a dyna’r rheswm dros ddewis y mannau cychwyn a gorffen.

Bu farw yn 19 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ger Caernarfon ar 2 Mehefin 2023.

Roedd yn wreiddiol o Gaernarfon ac yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Fe fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 23 oed ddydd Gwener, ar ail ddiwrnod yr her.

Dywedodd un o’r trefnwyr, Iwan Wyn Bohana: “O’dd Josh yn berson clên, o’dd o’n gyfeillgar, o’dd o’n ffrind i bawb fel ‘dach chi’n gweld efo faint o gefnogaeth ma’r her ‘di gael.

“O’dd o’n rywun o’dd yn licio mynd allan am beint, mynd allan i watchiad Caernarfon, o’dd o’n chwara' ffwtbol i Bontnewydd a o’dd ffwtbol yn agos iawn i’w galon o.”

Mae’r daith yn codi arian at Gôl Cymru, Clwb Ieuenctid Porthi Dre a Two Pints Deep.

Mae Gôl Cymru a Phorthi Dre yn cefnogi pobl ifanc, tra bod Two Pints Deep yn annog dynion i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl.

Mae mwy na £4,400 wedi’i godi cyn i’r daith ddechrau, gyda tharged o £5,000.

Dywedodd mam Josh, Melanie Tookey, fod yr her yn golygu llawer i’r teulu.

“Mae o jyst yn lyfli gweld nhw yn invested yn cadw Josh yn fyw, ei enw fo ‘lly, a dangos faint o argraff na’th o arnyn nhw.

“Nathon ni ddeud yn y diwrnod nathon ni ffarwelio efo Josh, nath Abi [chwaer Josh] ddeud bo' ni 'di colli Josh, ond 'dan ni di gainio 40 o hogiau sydd yn rili annwyl ac yn meddwl amdana ni.”

Mae teulu Josh yn parhau i aros am gwest llawn i’w farwolaeth, ac mae ail wrandawiad cyn-cwest wedi’i drefnu ar gyfer 23 Medi.

Wrth edrych ymlaen at gyrraedd Caernarfon ddydd Sul, dywedodd Iwan: “‘Sa’n edrych lawr yn gwenu os ‘sa fo’n gw‘bod bo’ ni dal yn neud y stwff yma.

“Dwi’n meddwl ‘sa fo’n hapus gweld hynna a dwi’n meddwl bysa fo’n edrych lawr yn gweld ni’n gorffan yn yr Oval dydd Sul, dwi’n meddwl ‘sa fo’n hapus iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.