Ymestyn rhybudd melyn am fellt a tharanau i Gymru gyfan
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn rhybudd melyn am fellt a tharanau i Gymru gyfan fore Iau, wedi rhybudd i rannau o'r wlad ddydd Mercher.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 05:00 a 22:00 ddydd Iau, ac yn effeithio ar bob rhan o Gymru bellach.
Daw wedi rhybudd melyn am fellt a tharanau ar gyfer dwyrain Cymru ddydd Mercher.
Roedd rhybudd ddydd Mercher ar gyfer siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, rhannau o Wynedd, Sir Fynwy, Powys a Wrecsam.
Daeth y rhybudd hwnnw i rym am 03:00 fore Mercher a pharhau tan 22:00 nos Fercher.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae'n debygol iawn y bydd y rhybudd ddydd Iau yn effeithio ar amodau gyrru, gyda dŵr ar y ffordd, dŵr yn tasgu neu genllysg, gan arwain at deithiau hirach mewn ceir a bysiau.
Mae oedi i wasanaethau trên hefyd yn bosib.
Mae’r rhybudd yn dweud y gallai mellt achosi rhywfaint o ddifrod i rai adeiladau a strwythurau, ac mae colli trydan neu wasanaethau eraill am gyfnod byr yn debygol mewn rhai ardaloedd.
Mae llifogydd mewn nifer fach o gartrefi a busnesau hefyd yn bosib, gyda phosiblrwydd y gallai achosi difrod i adeiladau neu strwythurau.
Fe allai 30-40mm o law ddisgyn ar draws Cymru gyda hyd at 50mm yn disgyn mewn cyfnod o ddeuddeg awr, meddai'r Swyddfa Dywydd.