Gwynedd: Pedwar 'Arosfan' i gartrefi modur wedi costio £264,000 yn fwy na'r amcangyfrif am chwech
Mae Cyngor Gwynedd wedi gwario dros £364,000 ar bedwar safle pwrpasol i barcio cartrefi modur, ar ôl amcangyfrif yn wreiddiol y byddai hyd at chwe safle’n costio £100,000.
Fe gafodd y safleoedd eu cyflwyno'n ddiweddar dan gynllun peilot Arosfan, sy'n ymdrech i fynd i'r afael â'r heriau sydd wedi codi yn sgil poblogrwydd cynyddol faniau a chartrefi modur ymhlith ymwelwyr.
Ond yn ôl adroddiad newydd gan gorff Archwilio Cymru, does dim “sicrwydd am y canlyniadau na gwerth am arian y trefniadau i gynnal peilot arloesol Arosfan.”
Dywedodd y cyngor mai “amcan bris cynnar iawn” oedd y ffigur gwreiddiol o £100,000, cyn i waith manwl gael ei wneud ar y safleoedd a’r seilwaith angenrheidiol.
“Mae’n bwysig nodi fod yr amcangyfrif gwreiddiol a gyflwynwyd bum mlynedd yn ôl ar ddechrau’r gwaith cynllunio yn amcan bris cynnar iawn, a chyn cwblhau'r gwaith manwl o asesu safleoedd, dylunio a pharatoi’r gofynion seilwaith oedd ynghlwm â darparu safleoedd diogel ac addas,” meddai.
Beth yw safleoedd Arosfan?
Mae safleoedd Arosfan yn feysydd parcio pwrpasol lle gall cartrefi modur aros dros nos am ffi. Maen nhw’n debyg i’r ‘aires’ sy’n gyffredin ar gyfandir Ewrop.
Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Gwynedd y cynllun peilot yn 2021, cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi ar gyfer y pedwar safle ym mis Mai 2023.
Mae’r safleoedd ym maes parcio Doc Fictoria yng Nghaernarfon, Y Glyn yn Llanberis, maes parcio’r Maes yng Nghricieth a Chei’r Gogledd ym Mhwllheli.
Mae cartrefi modur yn cael aros ynddyn nhw am hyd at 48 awr, ac mae cyfleusterau dŵr ffres, dŵr gwastraff, ailgylchu a sbwriel ar gael yn y rhan fwyaf o’r safleoedd.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2086853063411708380?s=20
Daw’r adroddiad wedi i Gyngor Gwynedd alw ar bobl i barchu trefniadau parcio yn y sir, ar ôl cwynion ynglŷn â nifer y faniau gwersylla a chartrefi modur oedd wedi parcio ar Y Foryd yng Nghaernarfon yn gynharach ym mis Awst.
Dywedodd y cyngor fod arwyddion ‘Dim Gwersylla Dros Nos’ yn yr ardal, gan annog perchnogion i ddefnyddio safleoedd gwersylla a chyfleusterau penodol, gan gynnwys safleoedd Arosfan.
Costau uwch ac oedi
Yn ôl yr adroddiad gan Archwilio Cymru, cafodd cynllun Arosfan ei gwblhau yn hwyrach, am gost uwch ac ar raddfa lai na’r disgwyl.
Mewn papur Cabinet yn 2021, £100,000 oedd y swm dangosol ar gyfer codi hyd at chwe safle.
Erbyn i’r cyngor wneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru yn 2022, roedd yr amcangyfrif wedi codi i £340,000 ar gyfer chwe safle.
Ond erbyn 2026, roedd £364,562 wedi’i wario ar bedwar safle.
Ebrill 2023 oedd y dyddiad targed ar gyfer agor y safle cyntaf, ond ni ddaeth hwnnw’n weithredol tan fis Hydref y flwyddyn honno. Ni ddaeth pob un o’r pedwar safle yn gwbl weithredol tan fis Mai 2026.
“Nid oes sicrwydd am y canlyniadau na gwerth am arian y trefniadau i gynnal peilot arloesol Arosfan,” meddai Archwilio Cymru.
Cyngor: 'Torri tir newydd'
Wrth ymateb, dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod yn ystyried yr adroddiad, sy’n cydnabod yr ymchwil drylwyr a’r gwaith sylweddol a wnaed i ddatblygu’r cynllun.
Dywedodd y cyngor mai hwn oedd y cynllun cyntaf o’i fath i gael ei ddatblygu gan awdurdod lleol yng Nghymru, a’i fod wedi “torri tir newydd”.
Yn ôl y cyngor, cafodd y cynllun ei seilio ar ymchwil helaeth, ymgysylltu â thrigolion, busnesau a defnyddwyr, ac ystyriaeth o arferion mewn mannau eraill.
Dywedodd fod sicrhau’r seilwaith dŵr a gwasanaethau cysylltiedig yn fwy cymhleth na’r disgwyl, gan effeithio ar amserlen a chostau’r prosiect.
Ychwanegodd fod y cynllun wedi galluogi’r cyngor i dreialu ffordd newydd o reoli’r defnydd o gartrefi modur mewn modd mwy cynaliadwy, gan ddarparu cyfleusterau pwrpasol a cheisio lleihau’r effaith ar gymunedau lleol.
Argymhellion i'r cyngor
Nododd Archwilio Cymru fylchau yn y ffordd y cafodd prosiect Arosfan ei reoli, gan ddweud nad oedd 'na amserlen fanwl na chynllun cyfathrebu wedi’u paratoi, ac na chafodd cofrestr risg sylfaenol ei diweddaru.
Roedd y corff hefyd yn feirniadol o ddiffyg asesiad, hyd yn oed un rhannol, i werthuso effaith y peilot hyd yma. Dywedodd yr awdurdod lleol y byddai’n cynnal gwerthusiad yn ystod y misoedd nesaf.
Mae Archwilio yn wedi argymell bod y cyngor yn defnyddio trefniadau rheoli prosiect gwahanol y tro nesaf, sy’n cynnwys cofrestr risg, cynllun cyfathrebu, cyllideb fanwl ac amserlen fanwl.
Er hynny, dywedodd yr adroddiad fod y cyngor wedi ymchwilio’n drylwyr i’r opsiynau ac wedi ymateb yn rhagweithiol i broblem leol “gynhennus”.