Galw ar berchnogion faniau gwersylla i barchu trefniadau parcio yng Ngwynedd

Galw ar berchnogion faniau gwersylla i barchu trefniadau parcio yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar bobl i barchu trefniadau parcio yn y sir, wedi i nifer o faniau gwersylla a chartrefi modur barcio mewn ardal boblogaidd yng Nghaernarfon dros y penwythnos.

Mae arwyddion ‘Dim Gwersylla Dros Nos’ eisoes ar Y Foryd, yn ôl y Cyngor, wrth i’r ardal ddenu nifer o ymwelwyr gyda’i golygfeydd dros Ynys Môn.

Mae hefyd yn dweud bod gyrwyr yn cael eu hannog i beidio â meddiannu mannau parcio am gyfnodau hir, yn enwedig mewn ardaloedd prysur.

Dywedodd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Yr hyn rydym yn ei ofyn yw bod pobl yn ystyriol o'r cymunedau y maent yn ymweld â nhw, yn parchu'r amgylchedd ac yn gwaredu eu gwastraff yn gyfrifol ac yn gyfreithlon. 

"Mae hefyd yn bwysig bod gyrwyr yn parchu trefniadau parcio lleol ac yn osgoi meddiannu mannau am gyfnodau hir pan fo galw mawr amdanynt."

Mewn rhai lleoliadau ar y briffordd dros Bont yr Aber, mae’r Cyngor hefyd yn atgoffa pobl fod gwaharddiadau parcio cyffredinol i bob cerbyd mewn grym, yn ogystal â chyfyngiadau penodol sy’n atal faniau gwersylla a chartrefi modur rhag parcio rhwng 23:00 ac 08:00.

Mae’r Cyngor yn annog perchnogion i ddefnyddio’r safleoedd gwersylla a’r cyfleusterau sydd ar gael yn benodol ar gyfer faniau gwersylla a chartrefi modur.

Mae’r rhain yn cynnwys mannau stopio drwy gynllun Arosfan Cyngor Gwynedd.

Ychwanegodd Craig ab Iago: "Mae gennym ystod ragorol o safleoedd ledled Gwynedd sy'n darparu'n benodol ar gyfer faniau gwersylla a chartrefi modur, ac rydym yn annog pobl i wneud defnydd o'r cyfleusterau hyn.

"Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod Gwynedd yn parhau i fod yn lle croesawgar a phleserus i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.