Ffrindiau Josh Roberts yn cwblhau her 100 milltir o Lerpwl i Gaernarfon
Ffrindiau Josh Roberts yn cwblhau her 100 milltir o Lerpwl i Gaernarfon
Mae criw o ffrindiau Josh Lloyd Roberts wedi cwblhau taith gerdded dros 100 milltir o Lerpwl i Gaernarfon er cof amdano, gan godi mwy na £10,000 ar gyfer achosion elusennol.
Fe ddechreuodd yr her bedwar diwrnod yn Stadiwm Hill Dickinson, cartref newydd Everton, fore dydd Iau, gan orffen yn Stadiwm yr Oval, cartref Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, ddydd Sul.
Roedd Josh, oedd yn cael ei adnabod gan nifer fel "Pickle", yn gefnogwr brwd o’r ddau glwb, a dyna’r rheswm dros ddewis y mannau cychwyn a gorffen.
Bu farw yn 19 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ger Caernarfon ar 2 Mehefin 2023.
Roedd yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Fe fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 23 oed ddydd Gwener, ar ail ddiwrnod yr her.
Mae’r daith wedi codi mwy na £10,000 ar gyfer Gôl Cymru, Clwb Ieuenctid Porthi Dre a Two Pints Deep.
Mae Gôl Cymru a Phorthi Dre yn cefnogi pobl ifanc, tra bod Two Pints Deep yn annog dynion i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl.
Wrth siarad cyn y daith, dywedodd mam Josh, Melanie Tookey, fod yr her yn golygu llawer i’r teulu.
"Mae o jyst yn lyfli gweld nhw yn invested yn cadw Josh yn fyw, ei enw fo ‘lly, a dangos faint o argraff na’th o arnyn nhw," meddai.
"Nathon ni ddeud yn y diwrnod nathon ni ffarwelio efo Josh, nath Abi [chwaer Josh] ddeud bo' ni 'di colli Josh, ond 'dan ni di gainio 40 o hogiau sydd yn rili annwyl ac yn meddwl amdana ni."
Mae teulu Josh yn parhau i aros am gwest llawn i’w farwolaeth, ac mae ail wrandawiad cyn-cwest wedi’i drefnu ar gyfer 23 Medi.