Menyw o Brydain wedi marw ar ôl cael ei thrywanu mewn gorsaf drenau yn yr Almaen
Mae menyw o Brydain wedi marw ar ôl cael ei thrywanu mewn gorsaf drenau yn ne’r Almaen yn ystod oriau mân bore dydd Sul.
Dywedodd yr heddlu bod y fenyw, a oedd yn 31 oed, wedi dioddef "anafiadau difrifol" yn yr ymosodiad â chyllell yng ngorsaf drenau Rosenheim yn Bafaria.
Dywedodd Heddlu Bafaria fod swyddogion wedi arestio dinesydd Almaenig 27 oed o yn fuan ar ôl y digwyddiad.
Mae amgylchiadau’r digwyddiad a’r cymhelliad posib yn cael eu hystyried fel rhan o ymchwiliad troseddol, meddai’r heddlu.
Nid yw enwau’r dioddefwr na’r sawl sy’n cael ei amau wedi’u rhyddhau.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw dystion a allai fod wedi gweld "dadl neu wrthdaro corfforol" yng ngorsaf drenau Rosenheim yn ystod oriau mân y bore i ddod ymlaen.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn cefnogi teulu menyw o Brydain a fu farw yn yr Almaen, ac rydym mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol."
Llun: Gorsaf drenau Rosenheim (Wikimedia)