Menyw yn yr ysbyty ar ôl i gar daro cerddwyr yn Abertawe

Stryd Fawr Abertawe
Stryd Fawr Abertawe

Mae menyw yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl i gar daro cerddwyr ar stryd brysur yn Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ymateb i wrthdrawiad ar Stryd Fawr Abertawe am tua 22:00 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod car wedi taro dau gerddwr, gyda menyw wedi cael ei chludo i’r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae'r llu yn dweud eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu De Cymru: "Cafodd Heddlu De Cymru ei alw am 22:00 nos Sadwrn, 29 Awst, ar ôl adroddiadau bod car wedi taro dau gerddwr ar Stryd Fawr, Abertawe.

"Cafodd un fenyw ei chludo i’r ysbyty gyda’i hanafiadau. 

"Mae ymchwiliadau i’r digwyddiad yn parhau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.