Ffrainc 'mewn brwydr' yn erbyn tanau gwyllt wrth i don wres arall daro Gironde
Ffrainc 'mewn brwydr' yn erbyn tanau gwyllt wrth i don wres arall daro Gironde
Mae maer tref yn ardal Gironde yn ne-orllewin Ffrainc wedi dweud bod y wlad "mewn brwydr" yn erbyn tanau gwyllt.
"Ni yw un o’r trefi a gafodd eu taro galetaf, yr agosaf at y tanau gwyllt," meddai Manuel Martinez wrth wasanaeth newyddion Franceinfo.
Mae'r tanau gwyllt wedi bod yn lledaenu ar draws coedwigoedd Arcachon Basin ger Bordeaux ers bron i wythnos, gan ddinistrio 42,000 hectar o dir.
Dywedodd awdurdodau yn Gironde fore Mawrth fod y tanau o dan reolaeth ar hyn o bryd yn dilyn noson "llonydd".
Ond mae pryderon yn parhau wrth i swyddfa dywydd Ffrainc, Météo-France, gyhoeddi rhybudd melyn am wres ar gyfer Gironde a Landes.
Daeth y rhybudd i rym amser cinio ddydd Mawrth, ac mae'n effeithio ar fwy na dwsin o adrannau yn ne-orllewin Ffrainc.
Ton wres
Mae disgwyl i'r tymheredd gynyddu'n gyflym a chyrraedd uchafbwynt o 37°C i 40°C erbyn dydd Mercher.
Mae tua 4,000 o bobl eisoes wedi cael gorchymyn i adael safleoedd gwersylla yn ardal Lacanau-Océan ar yr arfordir.
Erbyn hyn mae mwy na 360,000 o bobl wedi gorfod gadael eu tai yn Ffrainc a Sbaen o achos y tanau gwyllt.
Dywedodd Emmanuel Macron fod Ffrainc yn wynebu'r sefyllfa anoddaf ers yr Ail Ryfel Byd, gan annog timau diffodd tân i "aros yn gryf".
Mae o leiaf un dyn wedi'i ladd yn Sbaen ac mae dwsinau o bobl eraill wedi'u hanafu, gan gynnwys 93 o ddiffoddwyr tân yn Ffrainc.
Yn Sbaen mae tua 60,000 o bobl wedi gorfod gadael eu tai yn ardaloedd Madrid, Avila a Toledo o achos tanau gwyllt.
Mewn cynhadledd i'r wasg, dywedodd Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sanchez: "Ar hyn o bryd, mae wyth tân coedwig mawr yn parhau i losgi yn Sbaen," meddai.
Rhybuddiodd y byddai ton wres arall yn ei gwneud hi'n anoddach diffodd tanau presennol ac yn cynyddu'r risg o rai newydd.