Ffliw adar yn dal 'yn ofid' er bod cyfyngiadau wedi’u codi

Paul Williams a Llŷr Jones

Mae'r ffliw adar yn dal yn bryder i’r rhai sy’n magu dofednod a chynhyrchwyr wyau er bod Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan wedi cael ei ddiddymu, ddydd Iau.

“Mae e’n ofid,” meddai Paul Williams o Glyn Coch, prif stiward adran ddofednod Sioe Frenhinol Cymru.

Daw’r newid wrth i’r adran ddofednod baratoi i ddychwelyd i’r Sioe Frenhinol eleni, wedi i’r mwyafrif o gystadlaethau dofednod gael eu canslo y llynedd.

Roedd cystadlaethau colomennod yn dal i gael eu cynnal y llynedd, gan nad oedd y cyfyngiadau yn berthnasol iddynt yn yr un ffordd â dofednod eraill.

Hyd at fis Ebrill eleni, roedd rhaid i ffermwyr gadw eu dofednod dan do.

Ers hynny, roedd mesurau bioddiogelwch gorfodol eraill wedi parhau mewn grym, gan gynnwys rheoli mynediad at yr adar, ceisio lleihau cyswllt ag adar gwyllt a diheintio offer, dillad ac esgidiau yn rheolaidd.

Cafodd y mesurau hynny eu codi ar 4 Mehefin ar ôl i’r risg o drosglwyddo ffliw adar o adar gwyllt i adar caeth yn y DU ostwng o lefel ganolig i lefel isel.

Dywedodd Mr Williams wrth Newyddion S4C fod cyfyngiadau wedi cael eu cyflwyno a’u codi dro ar ôl tro yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ei gwneud yn anodd i’r rhai sy’n magu adar baratoi ar gyfer cystadlaethau.

“Mae mwy na thebyg bod ’na lawer wedi gorffen â magu a showan nawr,” meddai.

Yn ôl Mr Williams, mae angen i fridwyr barhau i fagu er mwyn cynnal llinachau, hyd yn oed pan nad oes sicrwydd y bydd sioeau yn cael eu cynnal.

Angen cadw llygad

Mae Llŷr Jones, sy’n rhedeg busnes wyau yn Llanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen, hefyd wedi croesawu’r newid, ond dywedodd fod angen parhau i fod yn wyliadwrus.

“Braf gweld bod y restrictions wedi eu codi ond mae’n bwysig bod yn ni’n dal i gadw llygad arno achos fe ddaw o nôl erbyn yr Hydref fel ma hi wedi o'r blaen.

“Mae’n newyddion da ond ychydig o breathing space ydy hyn,” meddai.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru hefyd wedi croesawu’r penderfyniad, ond mae’r ddau undeb yn rhybuddio bod angen i geidwaid adar barhau i gynnal mesurau bioddiogelwch da.

Image
Ieir
Mae ceidwaid adar yn cael eu hannog i barhau’n wyliadwrus er bod y risg wedi gostwng

Mae’r penderfyniad i godi’r parthau atal yng Nghymru wedi’i wneud ar y cyd ag awdurdodau yn Lloegr a’r Alban.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: “Rwy’n falch bod y gostyngiad diweddaraf yn y risg o ffliw adar yn golygu ein bod bellach yn gallu codi Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan.

“Mae hyn yn newyddion da i’n ceidwaid adar, a hoffwn ddiolch i’r sector, sydd wedi gweithio’n galed ac wedi dangos gwyliadwriaeth ofalus trwy gyfnod parhaus a heriol.

“Rwyf hefyd eisiau bod yn glir iawn nad yw risg isel yn golygu dim risg.”

Mae Llywodraeth Cymru yn annog ceidwaid adar i barhau i gadw’r mannau lle maen nhw’n byw yn lân, lleihau cyswllt ag adar gwyllt, diheintio offer, dillad ac esgidiau yn rheolaidd, a rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw arwyddion o glefyd.

 

(Llun: Cyswllt Ffermio)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.