Y Fenni: Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi marwolaeth dyn yn ei ugeiniau

Hen Ffordd Henffordd, Y Fenni

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn marwolaeth dyn yn ei ugeiniau yn Y Fenni, Sir Fynwy. 

Cafodd Heddlu Gwent wybod am ddigwyddiad ar Hen Ffordd Henffordd yn y dref am tua 06.15 ddydd Gwener 15 Mai.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd dyn yn ei ugeiniau ei gludo i’r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau.

Dywedodd y llu bod teulu'r dyn yn ymwybodol o'i farwolaeth ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Cafodd dyn 27 oed o bentref Gil-wern ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio a'i ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Mae swyddogion yr heddlu bellach yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn ystyried nifer o bosibiliadau, gan gynnwys a oedd cerbyd yn rhan o’r digwyddiad neu a oedd y dyn wedi dioddef ymosodiad.

Apêl am wybodaeth

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Neil Blyth: "Rydym yn deall y gall adroddiadau o’r fath beri pryder, ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymchwilio i amgylchiadau ei farwolaeth.

"Mae’n bwysig nad yw pobl yn dyfalu am hunaniaeth y rhai sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad gan y gallai hynny achosi problemau i’n hymchwiliad.

"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth, siaradwch â’n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol.

"Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau’r dioddefwr ar yr adeg anodd hon."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd, neu a welodd unrhyw beth amheus, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600151351.

Yn benodol, mae swyddogion yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â lluniau dashfwrdd, CCTV neu gamera cloch drws o Hen Ffordd Henffordd a’r ardal gyfagos adeg y digwyddiad.

 

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.