Eurovision: Buddugoliaeth i Fwlgaria a Phrydain yn dod yn olaf

Eurovision

Bwlgaria oedd enillwyr cystadleuaeth Eurovision nos Sadwrn, gyda Phrydain yn dod yn olaf yn Awstria.

Y gân Bangaranga oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth, gyda'r gantores Dara yn hawlio pleidlais y cyhoedd a'r beirniaid.

Israel ddaeth yn aill, gyda Romania yn drydydd.

Roedd hi'n noson siomedig unwaith yn rhagor i Brydain, gyda'r gân Eins, Zwei, Drei yn ennill un pwynt yn unig drwy'r. noson, gan Wcráin.

Dyma'r trydydd tro ers 2020 i Brydain gael ei gosod yn y safle isaf.

Roedd y  DU ymyg sawl gwlad arall a roddodd 12 pwynt i Fwlgaria yn y bleidlais i'r cyhoedd.

Fe gadarnhaodd Teledu Cenedlaethol Bwlgaria hefyd y bydd cystadleuaeth y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal ym mhrifddinas y wlad, sef Sofia.

Fe gafodd y cyfnod cyn cystadleuaeth eleni ei gysgodi gan brotestiadau am gyfranogiad Israel yn sgil y rhyfel â Gaza.

Fe wnaeth pump o wledydd benderfynu boicotio'r digwyddiad, gan gynnwys Sbaen, Iwerddon a Gwlad yr Iâ, ac roedd nifer o brotestiadau yn Fienna hefyd cyn y gystadleuaeth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.