Etholiad Senedd Cymru: Lansio gwefan i fagu hyder pobl i bleidleisio
Bydd gwefan newydd sydd a’r nod o helpu pobl ddeall mwy am etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai yn cael ei lansio fis nesaf.
Fe fydd bwrwpleidlais.cymru bellach yn cael ei lansio gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru ym mis Mawrth 2026.
Daw hynny ar ôl i bôl piniwn awgrymu bod dros hanner pobl Cymru yn brin o hyder pan ddaw i’r etholiad.
Dywedodd 51% o bobl dros 16 oed eu bod yn credu nad oes ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn pleidleisio.
Bydd bwrwpleidlais.cymru yn cynnwys gwybodaeth am sut i bleidleisio, beth mae'r Senedd yn ei wneud, pwy yw'r ymgeiswyr a beth maen nhw'n ei gynrychioli.
Bydd hefyd yn egluro sut mae'r system etholiadau'n gweithio ac yn cynnwys gwybodaeth am bynciau eraill sy'n gysylltiedig â'r etholiad.
Dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ y dylai pawb “gael y cyfle i bleidleisio’n hyderus yn etholiad y Senedd eleni.”
“Ond mae chwarter o bobl yng Nghymru yn llai tebygol o ddefnyddio eu pleidlais oherwydd diffyg gwybodaeth,” meddai.
“Rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl a meithrin eu hyder pleidleisio yw’r rheswm pam rydym yn lansio bwrwpleidlais.cymru ym mis Mawrth eleni.
“Os oes gennych gwestiynau am sut i bleidleisio, ble i bleidleisio, neu dros bwy i bleidleisio, neu os ydych chi eisiau gwybod sut mae’r system bleidleisio newydd yn gweithio, neu beth mae’r Senedd yn ei wneud, byddwch chi’n gallu dod o hyd i’ch atebion ar bwrwpleidlais.cymru o ddechrau mis Mawrth.”
Diffyg hyder
Survation oedd yn gyfrifol am gynnal y pôl piniwn a gomisiynwyd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, sy'n gyfrifol am y Bwrdd Rheoli Etholiadol.
Yn ôl eu canfyddiadau, dim ond 16% o bobl oedd â llawer iawn o hyder bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad pan fyddant yn pleidleisio.
Dywedodd o leiaf chwarter o bobl bod teimlo’n ansicr ynghylch gwahanol agweddau ar sut mae etholiad y Senedd yn gweithio yn eu gwneud yn llai tebygol o bleidleisio.
Roedd 35% o bobl yn ddihyder ynghylch dod o hyd i wybodaeth am ymgeiswyr sy'n sefyll yn eu hardal, tra bod 28% yn ddihyder ynghylch dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am etholiadau Cymru.
Mae 49% o bobl yn credu bod gwefannau newyddion lleol neu Gymreig yn lleoedd da i ddysgu am ymgeiswyr yn eu hardal. Byddai 43% yn gwirio gwybodaeth swyddogol gan y Comisiwn Etholiadol, tra byddai 42% yn edrych ar wefan eu cyngor lleol.