Enwi dyn a gafodd ei ganfod mewn cronfa ddŵr yn dilyn marwolaeth menyw ym Merthyr
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 39 oed a gafodd ei ganfod yn farw mewn cronfa ddŵr ym Mannau Brycheiniog yn dilyn marwolaeth menyw 35 oed ym Merthyr.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod swyddogion wedi cael eu galw i ymosodiad difrifol ar fenyw ym Mhenydarren, Merthyr Tudful, ychydig cyn hanner nos ar 15 Mehefin.
Cafodd Zoe Dixon ei chludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd ond bu farw yn ddiweddarach o ganlyniad i'w hanafiadau.
Mewn gwrandawiad i agor cwest i’w marwolaeth yn Llys Crwner Pontypridd ddydd Iau, clywodd y llys ei bod wedi marw o anaf difrifol i'w phen.
Mae'r llu wedi cadarnhau bod yr ymchwiliad i’w marwolaeth bellach yn cael ei drin fel achos o ladd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod dyn 39 oed wedi ei ddarganfod yn farw yn dilyn yr ymosodiad, yng Nghronfa Ddŵr Pontsticill ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn oriau mân y bore ar 16 Mehefin.
Mae’r llu wedi cadarnhau mai enw’r dyn oedd Nathan Thomas, 39 oed, oedd yn bartner hir dymor i Zoe.
Nid yw swyddogion yn chwilio am unrhyw berson arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae teulu Zoe yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol, wrth i’r llu gadarnhau bod y tîm Ymchwilio Troseddau Mawr bellach yn cefnogi’r ymchwiliad.
Dywedodd CI Claire Lamerton ar ran teulu Zoe: “Gofynnwn fod eu preifatrwydd yn cael ei barchu yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, tra bod y teulu yn galaru am fam, merch, chwaer a ffrind roedd nifer fawr yn ei charu.”
Agoriad cwest
Clywodd y gwrandawiad agoriadol ddydd Iau fod Ms Dixon wedi cael ei chludo i'r ysbyty ar 16 Mehefin gydag "anafiadau trawmatig difrifol i'r pen".
Clywodd y llys fod cyflwr y fenyw 35 oed wedi "dirywio" a'i bod wedi marw ar 22 Mehefin.
Daeth archwiliad post-mortem cychwynnol i'r canlyniad ei boid wedi marw o anaf drwy drawiad grymus ('blunt force') i'r pen.
Dywedodd y crwner: "Yn seiliedig ar y dystiolaeth rwyf wedi'i chlywed, rwy'n fodlon ei bod yn angenrheidiol agor cwest i farwolaeth Zoe Marie Dixon.
"Mae rheswm i gredu bod y farwolaeth yn un drawmatig ac annaturiol.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi fy nghydymdeimlad â theulu Zoe Dixon yn y cyfnod anodd hwn."
Nid oes dyddiad wedi ei osod ar gyfer y cwest llawn hyd yma.
Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw un sydd profi camdriniaeth ddomestig i gysylltu gyda nhw am gefnogaeth a chymorth, drwy ffonio 999 neu 101.
