Enw uniaith Gymraeg newydd i theatr ym Mhort Talbot

Yr Aelwyd

Mae gan hen theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot enw newydd uniaith Gymraeg. 

Yr Aelwyd fydd enw’r lleoliad ar ei newydd wedd, sydd yng nghanol Sgwâr Dinesig y dref.

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau yn 2027.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn £18 miliwn o gyllid i wella’r adeilad ar gyfer perfformiadau theatr a gweithgareddau cymunedol.

Bydd cyfleusterau newydd ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau hefyd yn rhan o’r datblygiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor mai'r 'aelwyd' yn draddodiadol yw calon y cartref, yn fan lle mae pobl yn ymgynnull, yn rhannu straeon ac yn creu atgofion.

“Yr Aelwyd fydd theatr Port Talbot, lle y gall pobl leol fod yn falch ohono a bod yn rhan ohono drwy ddod â phobl ynghyd drwy’r celfyddydau ac adloniant,” meddai.

Ychwanegodd y bydd y lleoliad yn rhoi llwyfan i dalent a straeon lleol, ac yn dathlu hanes Port Talbot ym maes perfformio, creadigrwydd ac adrodd straeon.

Mae’r gwaith adeiladu eisoes ar y gweill, gyda chyllid gan Lywodraeth y DU a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Cafodd yr enw ei gyhoeddi mewn fideo gan y cyngor, oedd yn cynnwys wynebau lleol gan gynnwys y cyn-chwaraewr rygbi Richard Hibbard, yr actor Stuart Broad a pherchennog siop San Portablo, Nigel Hunt.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, aelod cabinet y cyngor dros natur, twristiaeth a lles, fod Yr Aelwyd yn cyfleu’r hyn y bydd y lleoliad newydd yn ei olygu i Bort Talbot.

“Bydd Yr Aelwyd yn llawer mwy na theatr. Bydd yn ganolbwynt i’r gymuned ac i ymwelwyr, gan ddod â phobl i ganol y dref a chefnogi adfywiad parhaus Port Talbot,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.