‘Enaid cariadus’: Teyrnged i dad i dri fu farw yn Llyn Geirionydd
Mae teyrnged wedi ei rhoi i dad i dri wedi i’r heddlu ddod o hyd i'w gorff yn Llyn Geirionydd ger Llanrwst dros y penwythnos.
Mae wedi cael ei enwi’n lleol fel Nathan Jones, 34 oed, o Landudno.
Fe gafodd ei gorff ei ddarganfod yn y llyn yn Eryri nos Sul - yr ail gorff i gael ei ddarganfod yno yn yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd yr heddlu ddydd Llun eu bod nhw wedi cael eu galw i ardal y llyn tua 19.10 ar 19 Gorffennaf.
Mewn teyrnged ar-lein, dywedodd ei chwaer, Lindsey Jones, ei fod yn “ddamwain drasig”.
Mae dros £1,500 wedi ei godi drwy dudalen GoFundMe gan ei chwaer i dalu am ei angladd.
“Gyda’r tristwch a’r torcalon dwysaf, rwy’n cyhoeddi fod Nathan Jones wedi marw yn llawer rhy ifanc, yn 34 oed,” meddai.
“Roedd yn enaid cariadus, gofalgar a charedig, a byddai’n gwneud unrhyw beth dros unrhyw un.
“Fe gafodd ei adenydd nos Sul mewn damwain drasig yn Llyn Geirionydd. Fe syrthiodd i’r dŵr ac ni ddaeth yn ôl allan.
“Fel y gallwch chi i gyd ddychmygu, rydw i, y teulu a’i ffrindiau i gyd mewn poen mawr. Felly, rwy’n gofyn i chi beidio â chysylltu i ofyn cwestiynau.
“Roedd Nathan yn caru pawb yn ei fywyd, a doedd gan neb air drwg i’w ddweud amdano. Roedd yn ddoniol, yn allblyg ac yn ddireidus iawn hefyd. Byddwn ni’n ei golli’n fwy nag y gall geiriau eu mynegi.
“Roedd Nathan yn dad cariadus i Theo, Noah ac Eva, ac yn fab ac yn ewythr cariadus. Roedd ganddo galon o aur. Cysga’n dawel, frawd bach. Byddaf yn dy garu am byth, nes y byddwn ni’n cyfarfod eto.
“Fydd Mam, Dad, fi, Lou na dy ffrindiau byth yn rhoi’r gorau i siarad amdanat ti! Bydd y cof amdanat ti’n fyw am byth."
'Colled'
Fore Llun, fe gafodd cwest ei agor i farwolaeth dyn arall oedd wedi mynd ar goll yn yr un llyn yn ddiweddar.
Y gred yw fod Rowan Booth, 21 oed, o Brestatyn wedi disgyn i mewn i Lyn Geirionydd tra'n ceisio sefyll i fyny ar ei badlfwrdd.
Clywodd y cwest yn Rhuthun nad oedd yn debygol fod Mr Booth yn gwisgo offer diogelwch er mwyn ei helpu i arnofio pan aeth i mewn i'r dŵr.
Dywedodd y crwner John Gittins fod yr heddlu wedi cael gwybod gan badlfyrddiwr arall ar noson 7 Gorffennaf fod Mr Booth yn boddi rhyw 20m o'r lan.
Daeth y Gwasanaeth Tân o hyd i gorff Mr Booth mewn dyfnder o 10 metr (dros 30 troedfedd).
Cafodd rheswm cychwynnol am ei farwolaeth ei gofnodi fel boddi.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gasglu mwy o dystiolaeth.
Mewn teyrnged i Rowan Booth ar-lein, dywedodd ei deulu: "Caiff Rowan ei garu am byth, bydd colled ar ei ôl bob un diwrnod, ac fe fydd yn aros yn ein calonnau am byth."