Eluned Morgan yn 'ddynes brysur' medd Ysgrifennydd Cymru

Jo Stevens ac Eluned Morgan

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens wedi mynnu bod Prif Weinidog Cymru yn "ddynes brysur" ar ôl iddi gael ei holi am yr oedi cyn i Eluned Morgan ddatgan cefnogaeth i Syr Keir Starmer yn ddiweddar.  

Tra'n cael ei holi gan Times Radio fore Mercher, gofynnwyd i Jo Stevens pam nad oedd Eluned Morgan wedi datgan ei chefnogaeth yn syth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar ol i Arweinydd y Blaid Lafur yn Yr Alban, Anas Sarwar alw arno i ymddiswyddo. 

Atebodd Ysgrifennydd Cymru drwy nodi "na allai hi fod wedi bod yn gliriach." 

"Mae hi'n ddynes brysur, hi yw Prif Weinidog Cymru. Dyw hi ddim yn mynd i fedru gwneud pethau, eiliadau ar ol i Anas Sarwar gynnal datganiad i'r wasg. 

"Ond roedd hi yn amlwg iawn yn cefnogi'r Prif Weinidog," meddai Ms Stevens.

Fe wnaeth Anas Sarwar alw ar Syr Keir Starmer i roi'r gorau i'w swydd  mewn cynhadledd newyddion ar 9 Chwefror.  

Gydag Etholiad yn yr Alban hefyd fis Mai, Mr Sarwar yw'r gwleidydd Llafur mwyaf blaenllaw i nodi na ddylai Prif Weinidog y DU barhau yn ei swydd. 

Mae hynny yn ergyd arall i awdurdod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn sgil beirniadaeth am ei benderfyniad i benodi yr Arglwydd Mandelson yn Llysgennad y DU yn America, wedi adroddiadau am berthynas Mandelson â'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Yn y gynhadledd newyddion, dywedodd arweinydd Llafur yr Alban bod sgandal Mandelson yn tynnu oddi ar waith Llafur, a bod angen i hynny ddod i ben. 

Nododd bod angen i'r arweinyddiaeth yn Downing Street newid. 

Ddiwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan ei bod yn "cefnogi’r Prif Weinidog yn y swydd y cafodd ei ethol i'w chyflawni."  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.