Eisteddfod yr Urdd: Glain Llwyd yn ennill y Fedal Ddrama
Glain Llwyd o Dal-y-bont ger Aberystwyth yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Mae Glain, sy’n 22 oed, bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl graddio o gwrs BA Perfformio yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.
"Tishe' Plant?" oedd teitl y ddrama fuddugol.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Mared Llywelyn a Gareth Evans-Jones.
Dywedodd y beirniaid: “Dyma ddramodydd hynod gyfforddus ac aeddfed, mae’r syniad yn syml ond yma ceir datguddiadau graddol, deialog chwareus a llachar.
“Dyma ddrama sy’n chwarae gyda’r dwys a’r difri’n effeithiol ac yn gadael teimlad cynnes, llawn gobaith ar ei ôl, heb fod yn or-sentimental.”
Roedd gofyn i’r ymgeiswyr gyfansoddi drama neu fonolog ar y testun "Rhyddid” neu destun o'u dewis nhw, oedd yn addas i gael ei llwyfannu mewn gofod theatrig ar gyfer un, dau neu dri pherfformiwr.
Roedd yn rhaid i’r gwaith fod rhwng 15 a 30 munud o hyd.
Roedd y ddrama fuddugol yn un o 15 ymgais i'r gystadleuaeth.
Yn ôl y beirniaid, roedd hi’n “chwip o gystadleuaeth” gyda phob sgript yn “ddiddorol ac yn arbennig”.
Yn ôl Glain, mae'r Urdd wedi bod yn rhan bwysig o'i bywyd ers iddi gystadlu am y tro cyntaf yn chwe blwydd oed.
Mae hi’n aelod o Gwmni Theatr yr Urdd ac ym mis Awst bydd yn chwarae un o’r prif rannau yn y sioe gerdd Calon yng Nghanolfan y Mileniwm.
Dywedodd Glain: “Dwi wedi perfformio ar lwyfannau ers yn ifanc, fel aelod o Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, clybiau Drama Arad Goch ac ar lwyfannau Tafwyl a’r Eisteddfod Genedlaethol fel aelod o’r grŵp Diffiniad.
“Hoffwn ddiolch i Mam a Dad am fy annog i gystadlu ac i ysgrifennu, i Miri fy chwaer am roi ei barn onest ar y sgript cyn ei hanfon i’r gystadleuaeth, ac i Jarvis Cocker o Pulp am ysbrydoli fy ffug enw!”
Jarvis oedd ffug enw Glain ar gyfer y gystadleuaeth.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Siriol Haf Ousey o’r Rhyl, a Lleucu Angharad Hughes o Lanuwchllyn oedd yn drydydd.
Cafodd y Fedal ei rhoi eleni er cof am Audrey Mechell, yr actores a’r cynhyrchydd.
Cafodd ei chyflwyno gan ei merched Linda a Sandra, a’i hwyrion Elin, Gwen, Glesni a Cai.
Derbyniodd Glain fedal arbennig wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron.
Bydd gwaith Glain yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfryn gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn syth ar ôl y seremoni.
Bydd y cyntaf, yr ail a’r trydydd yn y gystadleuaeth yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd.
Byddan nhw hefyd yn cael blwyddyn o fentoriaeth a chyfleoedd datblygu gyda Theatr Cymru fel Dramodydd Preswyl Ifanc, yn ogystal â hyfforddiant pellach gyda’r BBC.