Eisteddfod yr Urdd: 'Côr meithrin mwya'r byd yn gyfle i bob plentyn o'r ynys i fod yn perthyn'
Fe fydd "côr meithrin mwya'r byd" yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Sadwrn yn "gyfle i bawb ar Ynys Môn i deimlo ryw fath o berthyn i'r mudiad" yn ôl un sydd wedi bod yn ganolog i'r trefnu.
Môn sy'n cynnal yr ŵyl eleni, a dyma'r tro cyntaf iddi gael ei chynnal dros gyfnod o saith diwrnod.
Bydd plant ifanc o holl Gylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd yr ynys yn dod at ei gilydd i ffurfio Côr Meithrin Mwya’r Byd ddydd Sadwrn, a hynny er mwyn canu Pen-blwydd Hapus i Mistar Urdd yn 50 oed ar y maes.
Fe fydd y côr yn cael ei arwain gan Catrin Angharad Jones i ganu cân ‘Hei Mistar Urdd!’.
Catrin yw Cadeirydd y Pwyllgor Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd eleni, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C: "Ma’ ‘na edrych ymlaen at hynny a ma’n neis bod y ‘Steddfod yn gallu cynnig rwbath i bob oed o’r ieuengaf un mewn ffordd, bo’ nhw’n teimlo rhyw ymdeimlad o berthyn i’r Urdd.
"Ar draws bob agwedd o’r ‘Steddfod, ‘dan ni wedi trio rhoi pwyslais ar fod yn gynhwysol.
Ychwanegodd: "Ma’r cyfleoedd wedi mynd ar gyfer côr meithrin, jambori cyfnod sylfaen, sioe cynradd a sioe ieuenctid... mae'r gwahoddiad wedi bod ar led i unrhyw un i gymryd rhan, a ma’ hynny’n bwysig bod pawb ar yr ynys yn cael teimlo ryw fath o berthyn i’r Urdd.
"Ma’r Gymraeg yn gymharol saff yma, ond ma’ isio sicrhau bo’ ni’n tanio cariad y plant ‘ma at iaith, at ddiwylliant ac at yr Urdd a bod pawb yn cael y cyfle i fod yn perthyn."
'Gwneud rhywbeth arbennig'
Ychwanegodd Haf Rowlands, Rheolwr Talaith Mudiad Meithrin yn y Gogledd-orllewin: "Gan fod Mistar Urdd yn 50 oed eleni, roedd Dewin a Doti a phlant o holl gylchoedd a meithrinfeydd dydd Ynys Môn yn awyddus i wneud rhywbeth arbennig i ddathlu’r achlysur.
"Daeth y syniad o wahodd pawb, gan gynnwys plant bach Cymru sydd yn ymweld â’r Eisteddfod ar Ynys Môn, i ganu Pen-blwydd Hapus i Mistar Urdd yn yr Adlen ar fore Sadwrn yr Eisteddfod. ‘Dan ni’n gobeithio y bydd cannoedd o blant a’u teuluoedd yn dod ynghyd i greu ‘Côr Meithrin Mwyaf y Byd’."
Yn ogystal â'r digwyddiad ddydd Sadwrn, fe fydd disgyblion presennol a gorffennol o ganolfannau iaith yr ynys yn rhan o'r Oedfa ddydd Sul.
"Ma’ genna ni gôr unedig yr ysgolion Sul a phlant y canolfannau iaith so ma’ hynny yn neis fod ‘na ymdeimlad o gyfle i bawb," meddai Catrin.
'Platfform i'w llais'
Catrin hefyd yw Cyfarwyddwr Cerdd y sioe ieuenctid, ‘Ffawd a Ffydd’, ac mae wedi ei lleoli ar draeth lleol poblogaidd.
Mae'r lleoliad yn rhan o ddatblygiad pentref gwyliau Golden Sands ac fe fydd y traeth at ddefnydd ymwelwyr a gwesteion y pentref gwyliau yn unig wedi hyn.
Er bod protestio chwyrn wedi bod yn lleol fe gafodd y cynllun ganiatâd i barhau.
Ychwanegodd Catrin fod y sioe yn gyfle i lwyfannu llais pobl ifanc.
"Ma’n neis medru rhoi llwyfan i lais pobl ifanc, mae o’n digwydd yn amlach wan... ma’n bwysig bo’ ni’n gwrando ar be ma’r bobl ifanc isio," meddai.
"Ma’n bwysig bo ni’n neud cyfiawnder â be’ ma’ nhw isio ei rannu a’i teimlada nhw felly braf ydi cael sioe fel hyn i roi platfform i’w llais nhw a ma’n bwysig bo ni’n gwrando. "