‘Eisiau bod yn Aelod o’r Senedd i roi llais i bobl sy'n edrych fel fi’
Mae ymgyrchydd ifanc o Abertawe sydd wedi profi camdriniaeth hiliol ddifrifol yn dweud ei fod yn anelu at fod yn Aelod o’r Senedd, gan ddweud bod angen mwy o gynrychiolaeth Ddu yn Senedd Cymru.
Mae Bowen Cole, 20 oed, sy’n astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Glasgow, yn gobeithio cael ei ethol yn gynghorydd sir yn Abertawe cyn gweithio tuag at ddod yn Aelod o’r Senedd dros ei ardal enedigol yn y dyfodol.
Daw ei sylwadau ar ôl iddo ennill gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Elusennau Cymru yng Nghaerdydd nos Iau.
Mae’r wobr yn cydnabod pobl 25 oed neu iau y mae eu gwaith gwirfoddoli dros y flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Yn ôl trefnwyr y gwobrau, mae Bowen wedi rhoi “cannoedd o oriau” i ymgyrchu dros bobl ifanc, cydraddoldeb a chreu heddwch yng Nghymru a thu hwnt, gan barhau â’i waith hyd yn oed ar ôl profi camdriniaeth hiliol a bygythiadau i’w fywyd.
Wrth siarad â Newyddion S4C cyn iddo ennill y wobr, dywedodd Bowen nad ennill oedd y peth pwysicaf iddo.
“Gweld bod mae gwaith fi'n actually gwneud gwahaniaeth ac mae teulu fi'n prowd - dyna sy'n bwysig i fi,” meddai.
‘Adeiladu’r person ydw i heddiw’
Wrth dyfu i fyny yn Abertawe, dywedodd Bowen mai dim ond dau berson Du oedd yn ei ysgol gyfan - ef a’i frawd.
Mae’n cofio rhai profiadau “anghyfforddus” yn ymwneud â’i hil, ond dywedodd fod y profiadau hynny wedi helpu i’w wneud yn berson mwy gwydn.
“Maen nhw nhw wedi adeiladu’r person ydw i heddiw,” meddai.
“Dwi’n gwybod mae llawer o bobl yn dweud hynna oherwydd mae’n ryw ffordd o copeio, ond dwi wir yn credu hwnna - mae ‘di neud fi’n person mwy resilient.”
Gyda’i wreiddiau yng Nghymru a Rwanda, daeth Bowen yn aelod o ail Senedd Ieuenctid Cymru rhwng 2021 a 2024.
Defnyddiodd y llwyfan hwnnw i godi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa rhwng Rwanda a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn rhanbarth y Great Lakes yn Affrica, profiad y mae’n dweud ei fod yn hynod falch ohono.
“Ar ôl hynna ges i neges gan un o aelodau’r ministry yn Rwanda yn dweud diolch am siarad lan ar gyfer nhw,” meddai.
“Dyw ddim mewn rhyfel, ond mae’n atrocity niche iawn sy’n digwydd ar y foment yn y byd a does neb wir yn siarad amdano fe.”
Ond mae ei waith ymgyrchu hefyd wedi dod â sylw digroeso ar adegau.
Dywedodd Bowen ei fod wedi profi camdriniaeth hiliol a bygythiadau ar-lein mor ddifrifol nes i’r heddlu roi diogelwch iddo.
Yn hytrach na’i dawelu, mae’n dweud fod y profiad wedi gwneud iddo siarad allan fwy fyth.
“Dwi ddim efo dim byd trist i ddweud am fe oherwydd mae fe ddim wedi effeithio fi o gwbl i drio cau fy ngheg neu i chillio mas,” meddai.
“Os unrhyw beth, mae wedi achosi fi i siarad lan mwy a gwneud mwy o waith.”
Dilyn gyrfa ym myd gwleidyddiaeth ydi’r freuddwyd, meddai Bowen.
Ar ôl graddio o’r brifysgol, mae’n gobeithio dod yn gynghorydd sir yn Abertawe, cyn dod yn Aelod o’r Senedd dros ei ardal enedigol.
Yn ôl Bowen, mae diffyg cynrychiolaeth o bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn Senedd Cymru ar hyn o bryd.
“Os ti’n edrych ar y Llywodraeth, i fod yn onest mae yna ddim wir llawer o bobl sy’n edrych fel fi,” meddai.
“Dwi’m yn credu bod yna un Aelod o’r Senedd sy’n edrych fel fi ar y foment.”
Ychwanegodd: “Sut ydyn ni’n gallu trystio’r Llywodraeth i wneud newidiadau i ni ac i fod yn llais i ni pan mae ddim unrhyw berson sy’n edrych fel fi yn y Senedd?”
Er hynny, mae’n cydnabod bod gwell cydraddoldeb ymhlith staff swyddfeydd Llywodraeth Cymru a chynghorau sir.
“Dwi'n gweithio i Gyngor Abertawe ac mae’n diverse iawn,” meddai.
“Mae’r mwyafrif o bobl yna yn edrych fel fi, neu pobl o hil arall, a dwi mor prowd o hwnna.”
'Lleisiau pobl ifanc erioed mor bwysig'
Pe bai’n dod yn Aelod o’r Senedd, dywedodd Bowen y byddai’n sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses o lunio polisïau.
“Byddwn i’n ymgynghori â nifer o bobl o’m grŵp oedran i,” meddai.
“Bydden nhw yn yr ystafelloedd yn gwneud gwahaniaeth gyda’u lleisiau nhw, oherwydd mae gwir angen eu lleisiau nhw - dydy eu lleisiau nhw erioed wedi bod mor bwysig.”
Mewn ymateb i'w sylwadau, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi mwy o amrywiaeth mewn swyddi etholedig ac yn ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn helpu i lywio eu polisïau.
Mae Bowen yn credu bod gwrando ar bobl ifanc yn arbennig o bwysig i’r rhai sy’n teimlo nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed.
Ei neges i bobl ifanc sy’n profi hiliaeth neu sy’n teimlo eu bod yn cael eu gadael allan yw parhau i godi eu llais a cheisio gwneud gwahaniaeth.
“Rydych chi yr un mor Gymreig â’ch cyfoedion gwyn, eich ffrindiau a’ch teulu,” meddai.
“Dydych chi ddim yn rhywun o’r tu allan a ddylech chi byth deimlo felly.
“Dyma eich gwlad chi gymaint â gwlad unrhyw un arall.”
Ymatebion
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cymru'n wlad groesawgar sy'n seiliedig ar degwch, tosturi a chyfle i bawb.
"Rydyn ni am i'n sefydliadau democrataidd adlewyrchu'r bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ac rydym yn cefnogi mwy o amrywiaeth a chynhwysiant mewn swyddi etholedig drwy ehangu cyfranogiad mewn bywyd cyhoeddus ac annog pobl o bob cefndir i sefyll mewn etholiadau.
"Mae gan bobl ifanc gyfraniad pwysig i'w wneud i ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod eu lleisiau'n helpu i lywio'r polisïau sy'n effeithio arnynt.
"Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i gefnogi ceiswyr noddfa i gymryd rhan ac integreiddio yng nghymdeithas Cymru, gan eu helpu i ailadeiladu eu bywydau'n ddiogel ac ag urddas. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl sydd â phrofiad uniongyrchol."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae Plaid Geidwadol Cymru yn credu y dylai pobl o bob cefndir deimlo bod gwleidyddiaeth yn agored iddynt a bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael Senedd sy’n adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu cynrychioli, ond mae cynrychiolaeth hefyd yn ymwneud â gwrando ar bobl, deall eu pryderon a gweithredu ar y materion sy’n bwysig iddynt.”
Mae Newyddion S4C hefyd wedi gwneud cais am ymateb gan Blaid Cymru, Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd a Reform UK Cymru.