‘Dyw’r modelau busnes ddim yn gallu para’: Mwy o newyddiaduraeth leol y tu ôl i furiau talu
Mae un o brif gyhoeddwyr papurau lleol Cymru yn cyflwyno muriau talu ar draws nifer o’i deitlau, gan ddweud nad yw’r incwm o hysbysebion digidol yn ddigon i dalu costau ystafelloedd newyddion.
O ddydd Iau, 1 Hydref, bydd darllenwyr y Cambrian News yn cael darllen un erthygl am ddim cyn gorfod cofrestru.
Ar ôl gwneud hynny, bydd modd darllen tair erthygl arall cyn bod angen tanysgrifio i gael mynediad llawn at gynnwys y wefan.
Mae’r Cambrian News yn gwasanaethu ardal o tua 3,000 milltir sgwâr ar draws Ceredigion, Powys, Gwynedd, gogledd Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro.
Dywedodd Sian Morgan Lloyd o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd fod y newid yn adlewyrchu her ehangach sy’n wynebu’r diwydiant.
“Dyw’r modelau busnes ddim yn gallu para fel ag y maen nhw. Mae wedi cyrraedd pwynt lle dyw’r model busnes yna ddim yn addas ar gyfer arferion darllen, gwylio a gwrando pobl.
“Dydy gwasanaethau newyddion ddim yn gallu gwerthu papurau na hysbysebion fel roedden nhw, felly mae angen newid y model.”
Bydd tanysgrifiad i’r Cambrian News yn costio £1 am y mis cyntaf ac yna £4.99 y mis.
Bydd yr Abergavenny Chronicle, y Brecon & Radnor Express a’r Monmouthshire Beacon hefyd yn cyflwyno’r model o 1 Hydref, gyda’r Tenby Observer yn dilyn yn ddiweddarach yn y mis.
Dywedodd Iliffe Media, sy’n berchen ar y papurau, fod mwy o ddarllenwyr yn symud o brynu papurau print i ddarllen newyddion ar-lein.
Ond yn ôl y cwmni, nid yw’r incwm o hysbysebion ar wefannau papurau lleol yn ddigon i dalu costau ei ystafelloedd newyddion.
Dywedodd Mick O’Reilly, golygydd y Cambrian News: “Fel golygydd, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau llwyddiant y Cambrian News yn y dyfodol a gwneud yn siŵr fy mod yn ei drosglwyddo mewn cyflwr da i’r rhai fydd yn gyfrifol amdano yn y dyfodol.
“Mae cyflwyno’r model tanysgrifio digidol yn rhoi’r papur ar sylfaen fasnachol gadarn iawn.
“Os ydych chi’n credu mewn newyddiaduraeth leol gref, mae’r newid hwn yn angenrheidiol, ac wedi bod yn hir-ddisgwyliedig.”
Bydd tanysgrifwyr yn cael mynediad diderfyn, llai o hysbysebion, mynediad at ap ac e-rifynnau, yn ogystal ag archifau’r papurau.
Mae cwmni Iliffe yn dweud bod ganddo nhw eisoes dros 40,000 o danysgrifwyr ar draws ei deitlau.
Bydd rhifyn print y Cambrian News yn parhau i gael ei werthu mewn siopau bob dydd Mercher.
Talu am newyddion
Nid Iliffe yw’r unig gyhoeddwr sy’n troi at danysgrifiadau digidol.
Lansiodd Reach wasanaeth Premium ar WalesOnline yn gynharach eleni, gyda chynnwys ychwanegol i danysgrifwyr a phrofiad gyda llai o hysbysebion.
Erbyn mis Awst, roedd Reach wedi cyflwyno tanysgrifiadau talu ar 19 o’i frandiau ac wedi pasio 50,000 o danysgrifwyr digidol.
Daw’r newidiadau wrth i’r defnydd o newyddion lleol barhau’n uchel.
Yn ôl ymchwil Ofcom a gyhoeddwyd ym mis Medi, mae 95% o oedolion y DU yn defnyddio rhyw fath o newyddion neu wybodaeth leol, ac mae 81% yn cael newyddion lleol ar-lein.
Mae saith o bob deg yn dweud bod newyddion lleol ymhlith y mathau pwysicaf o newyddion iddyn nhw.
Ond mae ymchwil gan Sefydliad Reuters ar gyfer Astudio Newyddiaduraeth yn dangos mai 10% o bobl yn y DU sy’n talu am newyddion ar-lein.
O’r rhai sy’n talu, mae 66% yn gwneud hynny drwy danysgrifiad neu aelodaeth barhaus.
Dywedodd Ms Morgan Lloyd fod arfer pobl o gael newyddion am ddim yn creu her i gyhoeddwyr sydd bellach yn ceisio cael incwm yn uniongyrchol gan ddarllenwyr.
“Mae pobl wedi arfer erbyn hyn â chael gwybodaeth yn rhad ac am ddim. 'Dan ni'n bell, bell i mewn i’r twf digidol erbyn hyn, ac mae llawer o wasanaethau newyddion wedi cynnig cynnwys am ddim.
“Felly mae’n teimlo’n chwithig efallai nawr i ofyn i bobl dalu am gynnwys maen nhw wedi arfer cael mynediad ato am ddim.
“Ond heb ddigon o incwm o hysbysebion, mae’n anodd talu staff ac mae’n anodd gwneud y gwaith o newyddiadura os nad yw’r incwm yn dod i mewn.”
Dywedodd y gallai tanysgrifiadau weithio os yw cynulleidfa’n gweld digon o werth yn y cynnwys.
“Os yw’r cynnwys yn ddigon da, mae’r straeon o safon ac mae diddordeb gan gynulleidfa i’w darllen, mae’n bosib y bydd pobl yn talu.”
‘Y straeon pwysig’
Dywedodd Ms Morgan Lloyd fod newyddiaduraeth leol yn chwarae rhan bwysig wrth adlewyrchu cymunedau a dal y rhai sydd mewn grym i gyfrif.
“Mae newyddiaduraeth leol yn bwysig iawn. Ei rôl yw adlewyrchu’r cymunedau hynny a gwneud hanfodion newyddiaduraeth, dal pŵer i gyfrif a chraffu.”
Ond dywedodd fod angen digon o incwm i allu gwneud y gwaith hwnnw.
“Os na all gwasanaeth newyddion dalu digon o newyddiadurwyr i wneud y gwaith, dydy e ddim yn gallu dod o hyd i’r straeon pwysig hynny.
“Dydy e ddim yn gallu craffu ar lywodraeth leol, mynd i lys na chreu perthynas gyda’r gymuned o’i gwmpas sy’n gallu rhoi straeon.
“Pan nes i ddechrau newyddiadura, dyna oedd y bara menyn, ac mae mor anodd cynnal hynny.”
Wrth sôn am ddyfodol newyddiaduraeth leol, dywedodd Ms Morgan Lloyd fod angen i gyhoeddwyr ystyried gwahanol ffyrdd o gynnal eu gwasanaethau.
“Mae gwahanol fathau o furiau talu y gallai papurau lleol eu harchwilio cyn rhoi popeth y tu ôl i fur talu, oherwydd mae yna risg o golli’r gynulleidfa’n llwyr.”